Cyngor Tref Caernarfon yn chwilio am Ddirprwy Glerc

Mae Cyngor Tref Caernarfon yn chwilio am Ddirprwy Glerc, sy’n swydd barhaol a Llawn Amser, ac wedi ei leoli yn Adeilad yr Institiwt yn y dref.

gan SION EVANS
crest-cyngor-pdf

Cyngor Tref Caernarfon yn chwilio am Ddirprwy Glerc

Cyngor Tref Caernarfon yn chwilio am Ddirprwy Glerc

Ydach chi eisiau gwneud gwahaniaeth ac ydach chi eisiau bod yn rhan o Dîm sydd eisiau gwella tref Caernarfon i drigolion y dref a phawb sy’n ymweld?

Mae Cyngor Tref Caernarfon yn chwilio am Ddirprwy Glerc, sy’n swydd barhaol a Llawn Amser, ac wedi ei leoli yn Adeilad yr Institiwt yn y dref.

Mae’r cyfrifoldebau yn cael eu rhestru yn y swydd ddisgrifiad, ond yn cynnwys mynychu cyfarfodydd a phwyllgorau, monitro a chreu polisïau, cyfathrebu’n rheolaidd gyda chynghorau a chymdeithasau eraill  er mwyn cadw perthynas effeithiol gyda nhw, arwain ar faterion y wefan Technoleg Gwybodaeth a Chyfryngau Cymdeithasol a delio gyda materion ariannol.

Rydym yn chwilio am unigolyn efo profiad o ddarparu cefnogaeth weinyddol o safon uchel, ac efo sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu ardderchog.  Bydd angen medrusrwydd o safon uchel mewn TGCh a gweledigaeth i wneud defnydd pellach ohono yng ngweithgareddau’r Cyngor. Disgwylir  y bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ddelio gyda’r cyhoedd mewn modd proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar y ffȏn.

Byddwn yn rhoi pob cefnogaeth i’r ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu’n broffesiynol.

Bydd y gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol.

Am becyn gwybodaeth, ffurflen gais , swydd ddisgrifiad a manylion personol, neu am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Sion Wyn Evans , Clerc Cyngor Tref Caernarfon ar 01286 672 943 neu ar clercydref@cyngortrefcaernarfon.llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd ydi 12.00 p.m., ddydd Iau, 26ain o Fai 2022, a dylai’r ffurflen gais ei hanfon at Sion Wyn Evans, Clerc y Dref, Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon, Adeilad yr Institiwt, Allt Pafiliwn, Caernarfon, LL55 1AS

Mae cyflog y swydd rhwng £25,419 a £28,226

Rhowch gynnig arni!