Y gloch ola’ i dafarndai Cymru

Codi pris peint i £20?

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Gyda chostau egni wedi cynyddu 400% i nifer o dafarndai, mae llawer yn teimlo fod y gloch olaf ar y gorwel.

Yn ôl un perchennog bar yng Nghaernarfon, nid yw’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.

Mae Rhys Davies sy’n rhedeg Tŷ Glyndŵr yn y dref yn poeni y bydd rhaid iddo gau cyn y Nadolig os na fydd rhywbeth yn newid.