Oes gwelliant ers osgoi?

Ar yr ugeinfed o Chwefror 2022 fe agorwyd ffordd osgoi Caernarfon yn swyddogol.

gan Elin Llwyd Brychan
Lon Parc Caernarfon

Ffordd llawer distawach. Diogel i blant o gwmpas McDonalds.

Y ffordd osgoi wedi ei orffen

Cafodd y ffordd osgoi ei hadeiladu er mwyn lleddfu tagfeydd traffig yn ardal Bontnewydd a Chaernarfon. Fe gostiodd oddeutu £139 miliwn i’w hadeiladu ac mae’n 9.8Km o hyd.

 

Ddeufis yn ddiweddarach mae rhai o drigolion yr ardal yn rhannu eu hargraffiadau.

 

Dyma ymateb rhai o drigolion Caernarfon:

 

“Rydw i’n byw ar Lôn Parc sef y brif ffordd sy’n mynd i mewn i Gaernarfon. Mae’r ffordd yn ddistawach a gyda phawb yn defnyddio’r ffordd osgoi rŵan rwyf yn ei gweld yn llawer haws troi allan o fy nhŷ. Er hynny mae gennyf bryder am gyflymder y traffig rŵan bod llai ohono yn enwedig gan fod nifer o blant yn cerdded ar hyd y ffordd.”

 

“Roedd gweld yr holl dir a choed yn cael eu difetha yn bryder gennyf ond yn ôl ffeithiau llywodraeth Cymru mae’n dweud bod mwy o goed a gwrychoedd wedi eu plannu na ddinistriwyd. Gan fy mod yn byw ar y ffordd i mewn i Gaernarfon mae’n debyg bydd llai o lygredd awyr yn fy nghartref gan fod miloedd llai o gerbydau yn pasio bob dydd.”

 

Dyma ymateb plentyn o Gaernarfon:

 

“Rwyf wrth fy modd yn cael teithio ar y ffordd newydd gan ei fod mor fawr a thebyg i rywbeth mewn dinas fawr. Nes i erioed ddychmygu y bysem ni’n cael ffordd fel hyn yn ein hardal leol. Rwyf wedi syfrdanu fy mod yn gallu teithio o ffordd osgoi’r Felinheli’r holl ffordd i’r gylchfan ar ôl Bontnewydd mewn ychydig gros chwe munud. Rwyf wedi sylwi bod llai o lorÏau yn fy mhasio wrth i mi gerdded adref o’r ysgol felly credaf ar y cyfan bod y cynllun hwn wedi gweithio.”

 

Dyma ymateb rhai o drigolion Bontnewydd: 

 

“Rwyf yn falch iawn bod y ffordd osgoi wedi cael ei hadeiladu. Mae’n llawer distawach yn y pentref felly o ganlyniad mae’n saffach i’r plant gerdded i’r ysgol. Mae’n gymaint haws troi allan o fy nhŷ tuag at Gaernarfon yn y boreau ac mae yna lai o sŵn traffig. Y gwahaniaeth mwyaf yw bod dim rhaid i mi eistedd am oriau yn y traffig am bump o’r gloch bob dydd pan go iawn rwyf eisiau bod adref gyda fy nheulu. Yn ogystal, mae fy mhlant yn cael budd ohono gan fod y bws ysgol byth yn hwyr bellach felly maent yn gallu cyfarfod ffrindiau cyn i’r gwersi ddechrau a gallant gymryd rhan yn y gweithgareddau cyn ysgol.”