Plant o Gaernarfon yn dringo mynyddoedd i godi pres i blant Wcráin

Mae criw o blant rhwng 6 a 9 oed o ysgol Gelli Caernarfon wedi bod yn dringo deg copa

gan Lowri Larsen

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol diwethaf cwrddodd Jac ac Emrys â Jeremy Corbyn, a chael cyfle i sgwrsio am eu teimladau am y rhyfel a dweud wrtho am Her y 10 Copa.

Mae deg o blant dre’ wedi dringo mynyddoedd a chodi arian ar ôl dysgu am sefyllfa ffoaduriaid Wcráin yn yr ysgol.

Enwau’r deg o blant yw Llew, Bleddyn, Gruff Lloyd, Emrys Hedd, Lludd, Owain Hywel, Enlli, Macsen, Jac Owen Phillips a Gruff Iwan, ac maen nhw wedi codi £2,170 tuag at apêl Wcráin UNICEF.

“Mae’r pres am gael ei ddefnyddio i roi lloches a bwyd i deulu” meddai Elinor, sydd yn fam i ddau o’r plant fu’n dringo – Lludd ac Emrys. Mae pecyn bwyd a lloches i deulu am wythnos yn costio £27.

Syniad Emrys oedd codi arian i blant Wcráin. Ffeindiodd Emrys, sy’n naw oed, allan am blant Wcráin yn yr ysgol gan eu bod yn hel bwyd i bobol Wcráin. Roedd Emrys wedi ypsetio ar ôl gofyn cwestiynau i’r athrawon am y sefyllfa ac am wneud rhywbeth i helpu.

Barn y plant am ryfela

Wrth drafod y sefyllfa yng nghaffi Grey Thomas yng Nghaernarfon daeth yn glir bod y plant ddim yn credu mewn rhyfel. Dywedodd Emrys fod hyn “achos bod lot o bobl yn cael eu lladd.” Dywedodd Macsen, sy’n naw oed, ei fod yn credu mai’r peth gwaethaf i blant Wcráin “yw gorfod dweud tara wrth dad.” Teimlad y plant oedd nad ydynt eisiau i’r rhyfel ddod atom ni. Mae’r plant yn ymwybodol o berygl trydydd rhyfel byd.

Cafodd y teithiau cerdded eu cynnal ar ôl y cyfnod clo. Dywedodd Elinor “ei fod yn neis i bawb weld ei gilydd ar ôl y cyfnod clo.” Rhai o’r mynyddoedd a ddringwyd oedd yr Wyddfa, mynydd Eliffant, mynydd Mawr, yr Eifl a Machlun Mawr, ac Anelog. Dywedodd Macsen “Fyny Wyddfa oedd coesau fi yn lladd. Y mwyaf gwyntog oedd mynydd Eliffant.” Dywedodd Elinor “Oedd hi mor wyntog odda ni’n gafael yn nwylo ein gilydd.” Dywedodd Gruff “oni ofn ar fynydd Eliffant bod y gwynt am chwythu ni i ffwrdd.”

Cwrdd â phlant sy’n ffoi erchylltra rhyfel

Dywedodd Elinor “Mae dau deulu wedi dod i fyw yn Gaernarfon fel ffoaduriaid does. So da ni am ofyn os maen nhw am fynd i cae chware i chware.” Dywedodd Lludd mae’r peth cyntaf byddai’n gwneud wrth weld plant Wcráin yw dangos y pres iddynt a’i fod eisiau bod yn ffeind a phlant Wcráin.

Os ydych eisiau cyfrannu mae’r apêl ar GoFund Me a Facebook.