Rhodd o £2000 gan DEG i Fanc Bwyd Arfon

Menter Gymunedol yng Nghaernarfon yn cefnogi’r Banc Bwyd y Nadolig hwn

Casia Wiliam
gan Casia Wiliam

Mae Menter Gymdeithasol Datblygiadau Egni Gwledig (DEG) yng Nghaernarfon wedi rhoi rhodd o ddwy fil o bunnau i Fanc Bwyd Arfon y Nadolig hwn.

Wrth roi’r cyfraniad ariannol mae DEG yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o waith gwych a di-flino’r Banc Bwyd lleol.

“Mewn byd delfrydol fyddai dim angen Banc Bwyd,” meddai Grant Peisley, Cyfarwyddwr DEG. “Ond yn anffodus mae eu hangen yn fwy nac erioed, ac felly rydym yn hynod falch o fedru eu cefnogi eleni.

“Rydym ni’n darparu cyngor ynni i bobl ledled Gwynedd ac felly’n gweld ein hunain pa mor anodd yw hi ar lawer un ar hyn o bryd ac yn gwybod bod gwaith y Banc Bwyd yn gwbl amhrisiadwy. Gobeithio y bydd ein rhodd yn gwneud y Nadolig hwn ychydig yn haws i rai o’n cymdogion yn yr ardal.”

Agorwyd Banc Bwyd Arfon ddeng mlynedd yn ôl yn 2012, a dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i gostau bwyd ac ynni gynyddu, mae’r nifer sy’n defnyddio’r banc bwyd hefyd wedi cynyddu 76%.

Meddai Trey McCain o Fanc Bwyd Arfon: “Gyda phawb yn wynebu heriau y Nadolig hwn, mae ein gwasanaeth ni wedi dod yn fwyfwy pwysig ac mae rhoddion fel hyn yn gwbl allweddol er mwyn i ni fedru helpu pobl sydd yn wynebu’r argyfwng costau byw y Nadolig hwn a rownd dy flwyddyn. Wrth gwrs, y realiti yw mai dim ond yr hyn yr ydym yn ei dderbyn yr ydym yn medru ei rannu. Diolch o waelod calon i DEG a grwpiau ac unigolion eraill yn ein hardal sydd yn ein galluogi i wneud y gwaith hwn.”

Mae DEG yn fenter gymunedol sy’n defnyddio unrhyw elw i helpu cymunedau lleol. Yn y gorffennol maent wedi prynu 300 o goed derw i’w plannu gyda cymunedau ledled Gwynedd, ac wedi noddi timau pêl-droed, rygbi a chriced yr ardal.