Cadwyn Gyfrinachau Mawrth – Tanya Morgan Lewis

Cyfle i ddod i ’nabod un o aelodau ffyddlon Côr Dre yng Nghadwyn Cyfrinachau Mawrth

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Enw: Tanya Lewis

Gwaith: Rheolwr Gwasanaeth i’r Bwrdd Iechyd

Beth yw dy gysylltiad â Chaernarfon? Wedi cael fy magu yn Nghaernarfon

Disgrifia dy hun mewn tri gair. Crazy, Clên a Cariadus

Nickname? Tans ne Fire Yes

Y digwyddiad achosodd fwyaf o emabaras iti? Oeddan ni ar wyliau yn Disney yn Paris a oeddwn yn dysgu Ffrangeg yn ysgol – wrth deud AuRevoir i staff bwyty – nath mam trio copio be neshi ddeud a nath hi enw botal o wîn yn lle! Beth mwyaf embarassing a ffyni yr un pryd! Hahahahahhaaaa

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn? I wasdad deud diolch a byta dy fwyd i gyd!

Pwy yw dy arwr? Dwi ddim isho fod yn cliché am hyn a deud Mam a Dad ayyb (ma nhw wrth gwrs) ond i’r rhai sydd yn nabod fi, yn gwybod genai soft spot mawr am Y Teulu Frenhinol – yn enwedig y Frenhinnes Elizabeth ll – fedraim deud yn union pam, ond genai llawer o llythyrau diolch, cardiau ayyb ganddyn nhw…ar diwedd y dydd ma nhw yn rhan o hanes..a dwin lecio’r ffaih fy mod yn byw mewn Tref Frenhinol hefyd!!

Y peth gorau am Gaernarfon? Y pobl, fedri gerddad lawr i dre, a deud helo wrth iti fynd i gymaint o bobl – os ti’n hogan dre – pawb yn nabod chdi rhywsut!

Beth yw dy ddiddordebau? Canu efo Côr Dre, darllen, siopa!

Oes gennyt ti ofn rhywbeth? Speidars 😱

Pryd wnes di grio ddiwethaf? Bob dydd bron! Dwi’n person reit emosiynol!

Beth yw dy hoff air? Genai lot – rhai sydd ddim yn addas i hwn (Cofi Dre cofiwch!) 🤣🤣

Hoff ffilm, lyfr neu albym a pham? Persusasion gan Jane Austen…classic love story!

Beth yw dy ddiod arferol? Gwin!

Beth yw dy hoff bryd o fwyd? Cinio Dydd Sul

Beth ydy’r ffaith fwyaf diddorol amdanat? Am oeddwn yn 10/11 oed, ysgrifennais cerdd a cafodd ei argraffu mewn llyfr – cystadleuaeth WHSmiths odd hi! 😂

Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd?  Graddio am y tro cyntaf (yn diweddar iawn)

Sut fasa ti’n treulio dy ddiwrnod olaf ar y blaned? Efo teulu a ffrindia agos, yn byta cinio dydd sul a yfed lot fawr o gwin 🤣

Pa lun sy’n bwysig i ti, a pham? (a fedri di rannu’r llun â mi plis) dwin aelod o Côr Dre ers tua 14 mlynedd rwan a wedi neud llawer o ffrindia – dani fel teulu mawr! A dwin joio mynd mynd bod nos Iau i ymarfer – wasdad codi calon! Ond ma’r Côr yn rhan mawr a pwysig o fy mywyd! (Crinj dwi’n gwbod! Haha!)

Petai modd i ti gael bod yn unrhyw un neu unrhyw beth arall, pwy/beth fasa ti’n ddewis?  Gweithio yn Buckingham Palace! Hahahaha!

Naill ai neu:

  1. Te neu goffi? Te
  2. Y traeth neu’r mynyddoedd?  Traeth
  3. Nadolig neu ben-blwydd? Nadolig
  4. Ffilm neu nofel?  Nofel
  5. Creision neu siocled? Crisps!!

Pwy ti’n enwebu at fis Ebrill? Dewi Bins neu Dewi Jones i eraill!