Deiseb Gwaith Brics Seiont

Arwyddwch y ddeiseb heddiw

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
436515325_957473765937682

Siân Gwenllian AS yn annerch protestwyr lleol

Mae deiseb wedi’i lansio i ddangos gwrthwynebiad pobl leol i fwriad i godi gorsaf nwy a pheiriant chwalu concrit ar hen safle gwaith brics yng Nghaernarfon.

Mae’r ddeiseb yn cael ei threfnu gan Caernarfon Lân, criw o drigolion pryderus sy’n ymgyrchu yn erbyn dau ddatblygiad gan Jones Brothers Ltd. Y cyntaf o’r cynigion yw gorsaf nwy i gynhyrchu trydan i’w werthu i’r Grid Cenedlaethol a’r ail gynnig yw gwaith malu a phrosesu concrit ar yr un safle.

Ymysg y pryderon niferus ynghylch y cynnig hwnnw mae allyriadau gwenwynig a llygredd sŵn, a’i effaith niweidiol bosibl ar iechyd pobl leol a byd natur.

Mae gwleidyddion lleol ymhlith y rhai sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau hefyd, gan gynnwys Siân Gwenllian AS a’r cynghorydd drod ward Peblig, Dewi Wyn Jones.

Gallwch arwyddo’r ddeiseb drwy ddilyn y ddolen hon.

Dweud eich dweud