Sioe Nadolig y Cofis

Cyfnod Sylfaen Ysgol Gynradd Y Gelli yn perfformio yn Theatr Seilo 🎭

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Pleser pur oedd cael bod yn bresennol i wylio a mwynhau Sioe Nadolig Cyfnod Sylfaen Ysgol Gynradd y Gelli yn fyw o Theatr Seilo heno.

Roedd y disgyblion a staff Ysgol y Gelli yn hynod o falch i gael cynnal sioe Nadolig ar lwyfan am y tro cyntaf mewn pedair blynedd ac roedd hi yn wir werth y disgwyl.

Roedd y disgyblion yn hyrwyddo a phwysleisio pwysigrwydd eu gwreiddiau a dathlu Caernarfon ac mi roedd pob un yn ymfalchïo cael bod yn Cofi!

Cafodd sioe llawn bwrlwm, canu, dawnsio a  jocio ac roedd y disgyblion yn pwysleisio ein bod yn hynod lwcus fod Caernarfon efo gymaint i gynnig yn enwedig Ein Castell Ni, Siop Palas Print ar gyfer straeon Sali Mali a Jac y Jwc, Banc Bwyd, Gray Thomas sydd yn gwerthu Cymru, Clwb Pel Droed Caernarfon sydd yn ysbrydoli chwaraewyr ar gyfer Cwpan y Byd nesa!, Clwb Rygbi Caernarfon efo dyfodol disglair, Clybiau’r Urdd yn ffynnu ac Ysgol Gora’r Byd – Ysgol y Gelli wrth gwrs!!

Gorffennodd y perfformiad gyda Gwestai Arbennig – Elidyr Glyn a ganodd gân gyda’r disgyblion

Roedd Elidyr eisoes wedi chyfansoddi y gân ar y cyd gyda disgyblion Y Gelli. Y tro diwethaf iddynt gyd-ganu oedd yng Nghastell Caernarfon cyn y cyfnod clo felly roedd yn wir ddathliad gallu mwynhau cyd-dynnu a bod yng nghwmni Teulu a Ffrindiau Ysgol y Gelli unwaith eto!

Llongyfarchiadau i chi gyd ar berfformiad a noson hynod wych!
Diolch i bawb a gefnogodd i sicrhau noson hynod lwyddiannus! 👏🏼

‘Jaman’ i chi os nad oeddech chi yno fwynhau’r perfformiad llawn ond dyma fideo a rhagflas i chi o’r diweddglo gyda Elidyr Glyn.

Diolch Ysgol y Gelli

Nadolig Llawen 🎅🏼🧑🏻‍🎄