M-SParc yn mynd â thechnoleg Ar Y Lôn i ddau leoliad yng Ngogledd Cymru

Ben Roberts

Ben Roberts
gan Ben Roberts

M-SParc yn mynd â thechnoleg Ar Y Lôn i ddau leoliad yng Ngogledd Cymru

Gyda hanes gwych o gefnogi arloesedd mewn cymunedau ar draws Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, mae M-SParc gan Brifysgol Bangor yn gyffrous i fod ar daith unwaith eto i leoliad ym Mae Colwyn ac ehangu i safle newydd yng Nghaernarfon.

Bydd Bae Colwyn yn parhau i gartrefu lleoliad yn 31 Ffordd Conwy, ar ôl bod yn hynod boblogaidd dros y pum mis diwethaf, gan ymgysylltu â dros 350 o aelodau’r gymuned leol ac ysbrydoli eu harloesedd, tra bod lleoliad Caernarfon yn fenter newydd sbon a leolir yn 18 Stryd Y Plas.

Mae’r lleoliadau yn gartref i’r holl weithgareddau a gynhelir yn yr adeilad blaenllaw ar Ynys Môn, gan gynnwys Gofod Gwneuthurwr Ffiws, desgiau poeth, gofod cydweithio, gweithdai busnes, dylunio, technoleg ac arloesi, yn ogystal â sesiynau gwyddoniaeth a thechnoleg i bobl ifanc.

Y Gofod Gwneuthurwr yw’r diweddaraf mewn cyfres o ofodau ‘Ffiws’ sydd ar gael ar draws y rhanbarth, a ddatblygwyd at ddefnydd y cyhoedd i brototeipio a brandio eich busnes mewn ffordd greadigol. Mae’r gofod cydweithio yn berffaith i’r rhai sydd am weithio mewn ardal gymunedol, ac mae’r gweithdai a fydd ar gael yn agored i bawb ac yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau diddorol.

Yn 2019 a dechrau 2020 aeth M-SParc ar y lôn ym Methesda a Botwnnog, gan ymgysylltu â bron i 700 o bobl mewn pedwar mis mewn prosiect i hybu, ysgogi a chefnogi busnesau yn y sector Technoleg a Gwyddoniaeth i dyfu yn y rhanbarth.

Mae’r daith yn ganlyniad uniongyrchol i M-SParc am gael effaith ranbarthol yn y sectorau Creadigol, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, i ysgogi busnesau ac annog mwy o bobl i ymddiddori mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, Pryderi ap Rhisiart:

“Mae’n garreg filltir gyffrous i M-SParc fod yn mynd yn ôl ar y ffordd ar ôl hydref llwyddiannus iawn ym Mae Colwyn, lle byddwn yn aros am bedwar mis arall, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio’r lleoliad mwyaf newydd yng Nghaernarfon yr wythnos hon hefyd.

“Rydym wedi profi ers tro bod M-SParc yn llawer mwy na dim ond adeilad a’n bod ni yma i ysgogi a chefnogi’r sector gwyddoniaeth a thechnoleg ledled Cymru.

“Yr hyn sydd mor gyffrous am lansio ein lleoliad diweddaraf yng Nghaernarfon, yw ein bod yn ymgysylltu â hyd yn oed mwy o gymunedau ac yn eu cefnogi i fod yn greadigol, i gydweithio ac i lansio neu ddatblygu eu busnesau, tra’n parhau i adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes wedi’i wneud ym Mae Colwyn.”

Dywedodd Ben Roberts, Swyddog Prosiectau Digidol M-SParc a Rheolwr Ffiws:

“Mae M-SParc yn ymfalchïo’n fawr mewn darparu ystod o gyfleoedd i gymunedau lleol a busnesau mewn trefi ar draws y rhanbarth, gan greu lleoliad cyffrous sy’n llawn cyfleoedd i unigolion a busnesau o bob cefndir.

“Dim ond am rai misoedd rydyn ni o gwmpas, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod i weld ni yng Nghaernarfon a Bae Colwyn i fanteisio ar y cyfleoedd gwych sydd ar gael. Rydym hefyd yn awyddus i ddarparu cyfleoedd i fusnesau bach ‘Profi Masnach’, gan redeg eu busnes o flaen ein lleoliadau, sydd wedi’u lleoli yng nghanol strydoedd mawr prysur. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy!”

I ddarganfod mwy am y lleoliadau yma, cysylltwch â Ben Roberts 01248 858027 neu arylon@m-sparc.com