Côr Dre yn Stadiwm y Principality

Tachwedd 2022 – Côr Dre yn diddanu ar gyfer gêm Cymru v Awstralia

gan Catrin Roberts
1CBE7A43-D447-487A-9F2E
AA8AEC6D-C7C3-4DF9-BAC5
CD50E41F-F3C1-43DC-9036
F02F6F54-F9FB-41E0-BF9A

Mis Gorffennaf eleni, fe gafodd Gôr Dre wahoddiad arbennig i ganu’r anthemau yng ngemau’r Hydref yn Stadiwm y Principality. Dyma dro cyntaf y côr i gael ffasiwn wahoddiad, er bod sôn wedi bod cyn y cyfnod clo. Ar ôl ymarfer “Advance Australia Fair”, Cwm Rhondda, Calon Lan a’r “Waltzing Matilda” dros y mis neu ddau dwytha, fe gyrhaeddodd y diwrnod mawr brynhawn Sadwrn olaf Tachwedd.

Fe gyrhaeddo ni Stadiwm y Principality amser cinio, gan gyfarfod y corau eraill oedd am ymuno efo ni ar y cae – Seingar (Caerfyrddin), Côr Bro Cernyw a Chôr Admiral. Cafwyd ymarfer byr gyda band y lluoedd arfog yng ngheg twnnel y Ddraig o dan arweiniad Dr Haydn James, roedd y sain yn anhygoel, dyma oedd y côr mwyaf erioed i ganu’r anthemau ar y cae rygbi.

Fel petai ddim yn ddigon i’r côr gael canu ar y cae yn ein stadiwm genedlaethol, cafodd Côr Dre hefyd wahoddiad i groesawu’r timau cenedlaethol a’u timau rheoli i’r stadiwm. Roeddem yn canu Cwm Rhondda, Rachie a Chalon Lan wrth i’r timau gamu oddi ar y bysiau a charlamu i fyny’r grisiau tuag at yr ystafelloedd newid! Roedda ni mor agos i’r chwaraewyr i gyd. Braint ac anrhydedd oedd canu i’w croesawu, a gymaint o’r chwaraewyr yn tynnu eu “headphones” i gydnabod y canu, gafo ni “wave bach” gan Alex Cuthbert a gwen fach gan ambell un!

Roedd y profiad o ganu i’r timau yn anhygoel, ond roedd y wefr fwyaf i ddod. Felly nôl i geg twnnel y Ddraig, yn barod i gamu ar y llwyfan mawr. Roedd 190 o gantorion yn canu i ddiddanu’r dorf cyn y gêm, a’r awyrgylch yn ffantastig. Ar ôl i’r timau redeg allan ymysg tan gwyllt a’r fflamau, fe ymunodd “Welsh in the West End” efo ni i gyd-ganu’r anthemau cenedlaethol. Roedd o’n brofiad anhygoel i bob aelod o’r côr (yn ffans rygbi neu beidio!).

Ar ôl canu’r anthema, rhaid oedd carlamu oddi ar y cae gan fod y gêm fawr ar fin cychwyn, roedd rhaid brasgamu o gwmpas chwaraewyr Awstralia i neud yn shwr bod pawb oddi ar y cau cyn y gic gyntaf! Rhedodd pawb i’w seddi (efo peint bach) i fwynhau’r gêm. I rai, dyma oedd eu gem rygbi cyntaf yn y stadiwm. Er, hanner cyntaf da iawn, a phawb yn mwynhau, doedd y canlyniad ddim cywir heb fod tro yma.

Roedd y cofis wrth eu bodd yn diddanu yng Ngwesty’r Angel gyda chyfeillion o Gôr Bro Cernyw a gafwyd noson wych yn y ddinas fawr er gwaetha’r canlyniad yn y gêm!

Profiad ffantastig i’r côr, o ymarfer tu allan i Glwb Rygbi Caernarfon yn ystod y cyfnod clo i gamu ar gae Stadiwm y Principality – gwych! Gan obeithio y cawn wadd unwaith eto yn y dyfodol. Tybed os ydy Côr Dre wedi canu yng ngem olaf Wayne Pivac wrth y llyw?