Adeiladu Bloc wrth Bloc

Siwrna Ffion wrth ddelio hefo Iechyd meddwl ar ôl geni

gan Elliw Llyr

Mewn cyfweliad personol mae Ffion yn disgrifio ei thaith ar ôl geni a chael diagnosis o iselder ôl-enedigol, gyda chyfuniad o feddyginiaeth a’r ysbrydoliaeth i sefydlu Blocs, mae Ffion wedi gallu sianelu ei hegni i bwrpas.

Mae Blocs yn cynnig gwasanaeth Gymraeg o addurniadau personol sydd wedi ei phaentio â llaw. Cewch ddewis eich lliwiau ysgafn gyda dewis o blociau, doliau, patrwm enfys neu byntin i ddathlu penblwydd neu enedigaeth un fach.

Roedd creu Blocs yn ffordd o roi teimladau negyddol ai troi yn fenter i fod yn therapi, drwy ddylunio, lliwio a chysylltu gyda’i chwsmeriaid- mae hyn ’di rhoi ’chydig bach o Ffion yn ôl dywedodd. Doedd ganddo ddim i wneud hefo babi, bwydo na newid clytiau!

Dwi yn Nyrs Iechyd Meddwl fy hun ac felly doedd chwilio am gymorth am fy Iechyd meddwl fy hun wedi croesi fy meddwl, ond mae bod yn fam yn her gorfforol, feddyliol ac emosiynol. Roeddwn yn gwybod nad oeddwn yn gallu dwad allan o le tywyll ar ben fy hun a dwi yn falch o allu siarad am y peth a chael cymorth. Does dim cywilydd mewn gofyn am help.

Dwi wir yn credu bod Blocs wedi helpu fi wella, medda Ffion, ac mae pawb sydd wedi rhoi archeb neu ddangos diddordeb i gyd wedi fy helpu ar fy nhaith o fod yn fam newydd.