Cadwyn Gyfrinachau Chwefror 2024 – Manon Awst

Manon Awst gafodd ei enwebu ar gyfer mis Chwefror, dysgwch fwy fan hyn

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Enw: Manon Awst

Gwaith: Artist

Beth yw dy gysylltiad â Chaernarfon? Yn Rhosbodrual oeddan ni’n byw pan o’n i’n fabi ac, ar ôl dipyn o symud o gwmpas rhwng Môn a Berlin, dwi’n ôl yma ac yn byw yn Twthill. Wastad di bod yn ganolbwynt rhywsut.

Disgrifia dy hun mewn tri gair. Byr, gwallt coch

Nickname? Mansi / Jinja Ninja

Unrhyw hoff atgof plentyndod? Mynd am dro ar ôl swper i draethau Porth Nobla a Phorth Trecastell, a rasio fyny i dop Barclodiad y Gawres.

Y digwyddiad achosodd fwyaf o emabaras iti? Dwi di llwyddo i blancio rhan fwyaf o’r rheiny allan diolch byth! Ond nesh i ollwng y plant yn hwyr i’r ysgol ar ddiwrnod HMS rhyw dro – union fel yr olygfa na’n Motherland. Sut oedd pawb arall yn gwbod?

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn? Siarad Cymraeg.

Y peth gorau am Gaernarfon? Y gymuned glos a’r Foryd.

Beth yw dy ddiddordebau? Cerrig, cerddoriaeth a cocktails.

Oes gennyt ti ofn rhywbeth? Cŵn.

Pryd wnest di grio ddiwethaf? Noson ola fy ffrind, Beth Celyn, yn dre cyn iddi symud i Aber chydig wsnosa’n ôl.

Beth yw dy hoff air? Mwddrwg.

Hoff ffilm, lyfr neu albym a pham? Llyfr ‘Underland’ gan Robert Macfarlane. Mae o’n gofyn i ni ail-ystyried ein perthynas efo’r ddaear a meddwl mewn cyfnodau amser ehangach – dyna dwi’n drio neud drwy fy ngwaith hefyd.

Beth yw dy ddiod arferol? Gwin gwyn sych.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd? Rhywbeth i fynd efo’r gwin gwyn sych – spaghetti efo bwyd môr neu gregyn gleision y Fenai.

Beth yw/oedd dy uchelgais / life goal mewn bywyd? Cael fy melt du mewn karate – un i ffwrdd ydw i, ond mae rhywbeth wastad yn dod yn y ffordd.

Sut fasa ti’n treulio dy ddiwrnod olaf ar y blaned? Fyny’n y bryniau efo’r teulu a picnic ffansi.

Pa lun sy’n bwysig i ti, a pham? Dwi’n hoff iawn o hwn di dynnu gan Dion Jones o fy ngherflun ‘Dan Bwysau’ yng ngardd Oriel Brondanw haf dwytha. Ro’n i fod i arddangos yno dros y cyfnod clo ond roedd rhaid bod yn amyneddgar, ac roedd werth y disgwyl – mae’n safle mor arbennig.

Petai modd i ti gael bod yn unrhyw un neu unrhyw beth arall, pwy/beth fasa ti’n ddewis? Bod mewn band, ond dwi’m yn canu na chwara offeryn yn ddigon da’n anffodus.

Naill ai neu:

Te neu goffi? W, rhy anodd.

Y traeth neu’r mynyddoedd? Mynyddoedd.

Nadolig neu ben-blwydd? Penblwydd, am fod mis Awst wastad yn wylia hir a braf.

Ffilm neu nofel? Dibynnu.

Creision neu siocled? Creision.

Pwy ti’n enwebu at fis Mawrth? Tanya Morgan Lewis