Arddangosfa yn Aildanio

Mae Galeri gyda arddangosfa aml gyfrwng sydd ar ei daith o amgylch Cymru

gan Elliw Llyr
image-1
image-2
image-3

Agorodd arddangosfa Aildanio yn Galeri neithiwr gan ddangos Gwobr Gelf Celfyddydau Anabledd Cymru sydd yn teithio’n genedlaethol.

Mae’r artistiaid wedi eu hannog i sgwennu eu brîff eu hunain, wrth i ni symud o gyfnodau clo yn ystod Cofid. Fel dywedodd Alan Whitfield, Swyddog Celfyddydau Gweledol, mai’r artistiaid sydd bia’r briff.

Gyda 3 beirniad, oedd yn cynnwys un o America, roedd 100 wedi trio ac 26 yn cael eu harddangos gyda 6 o heini yn rhai sydd yn dod i’r amlwg.

Dyma flas i chi o rai o’r artistiaid:

Lluniau sydd gan Jordan Sallis, wnaeth ddechrau peintio yn ystod Cofid gyda’r enw Freedom 2020 tra mae Alana Tyson wedi creu cyfres o flancedi wedi ei chrosio o’r enw Waste of Time.

Creu ffeuen gyda delweddau blodau gwyllt wnaeth Clarrie Flavell, sydd i’w weld drwy glôs gwydr, ac wedi ei alw yn Lighting the Roman Fires.

Amgylchiadau naturiol sydd yn ysbrydoli mam a merch i ddefnyddio acrilics â chyfryngau cymysg yn eu lluniau Radiance gan Bethany a Linda Sutton.

Creüwyd fideo Emerging From the Ranging Seas gan Arty Jen-Jo yn dangos fel y gall symud yn rhydd, er nad oedd yn ei chadair olwyn.

Mae Sera Louise Wheeler yn cyfuno celf a cherddi fel proses o dderbyn ei chyflwr iechyd hefo The Sands of Hearing Time.

Problemau delio gyda chostau byw sydd gan Tina Rogers dan sylw hefo You’ll be the Death of Me lle na all fforddio i gynhesu ei thŷ a gwefru ei chadair olwyn.

Mae Menai Rowlands yn tynnu sylw at y broses o greu yn hytrach na’r canlyniad o greu darn o gelf hefo llun Metamorphosis.

Myfyrio am yr amser rydym wedi ei dreulio ar ben ein hunain mae Lia Bean yn ystod Cofid ac wedyn drwy ei chelf Dreamer.

Mae Ruben Lorca yn edrych ar ddarnau dynol yn Portraits Before Death ac yn adlewyrchu profiad o golli coes mewn damwain pan yn 17 oed.

Prosesu teimladau yn dilyn adborth gan ymwelwyr arddangosfa mae Cerys Knighton gyda’r darn celf, Crested Grebe ac mae Paddy Faulkner yn dymuno anfarwoli drwy chwaer roedd yn arfer ymweld â hwy drwy’r llun Helen and Sadie and their Winking Dog.

Bydd yr arddangosfa yn Galeri tan 14 Ebrill.