Blas ar Gaernarfon 

Gwybodaeth handi am Gaernarfon ar gyfer wythnos Steddfod

gan Elliw Llyr

Dyma grynodeb o lefydd all fod o ddiddordeb os rydych yn aros neu yn bwriadu ymweld â Chaernarfon yn ystod y Steddfod.

Cewch ddigon o ddewis Caffis yn ystod y dydd o Gaffi Tŷ Winsh, Caffi Maes, Caffi Grey Thomas, Bonte Deli, Caffi Betty’s, Caffi Cei, Caffi Palas, Blasus, Bwyd Blasus Yashka, Y Gegin Fach a Scoops sydd i gyd yn gwneud bwyd cartref blasus.

Gyda digon i ddewis am bryd gyda’r nos hefyd, hefo tri bwyty Indiaidd, Bengal Spice gafodd ei agor gan Dafydd Wigley, Tandoori Caernarfon a Curry Scene wnaeth ennill gwobr Bwyty Cyri Gorau Cymru dechrau’r flwyddyn. Mae’r rhain hefyd yn gwneud têc awê.

Os mai ‘sglod a ‘sgod sydd yn cymryd eich ffansi cewch ddigon o ddewis têc awê, hefo Ainwsorth sydd wedi ei enwi ar restr gwobrau yng Nghylchgrawn Fry yn 2022/23. Mae J&C’s, Hendre a Siop Cae ar agor ac fe gewch eistedd i mewn yn Nemo’s ar y Maes.

Mae digon o têc awê-wê bwyd Sieneaidd hefo Winner, Yu’s, Lucky Fish Bar, Captial, Golden Lion a Fu’s sydd hefyd yn fwyty. Fe welwch chi y Fyddin Terracotta anferth yna hefyd, ond rhai cogio ydi nhw!

Cewch fwyd tafarn yn Y Castell, Pendeitch (Palace Vaults), Anglesey, Celtic Royal, Y Goron, Molly’s, Four Alls, Eagles a phatliad sylweddol yn Blac Boi bwytai cadwyn yw Tafarn y Porth a Harbwr.

Cewch pizza yn Tân, tapas yn Tŷ Castell a La Marina, bwyd Groegaidd yn Ouzo a Olive a bwyd Eidalaidd yn Osteria a Stones. Mae yr Hen Lys yn cynnig bwyd a diod yn ogystal â Wal.

Os da chi ffansi diod bach cewch ddigon i ddewis ohono hefo Twll yn Wal, Ship and Castle wnaeth gyfrannu yn hael tuag at dwrnament pêl droed i hel pres at Steddfod Alex, Bar Bach, Morgan Lloyd, Y Segontiwm, Twtil Vaults ac Albert.

Cewch gerddoriaeth fyw yn Tŷ Glyndŵr a Neuadd y Farchnad a chroeso yn Su’s Cocktails fyny grisiau yn y Pendeitch.

Ymlwybrwch o amgylch Orielau’r dref yn Galeri, Life Full Colour, Oriel Beth Horrocks sydd hefo cornel chware i blant ac Oriel y Castell.

Os byddwch wedi anghofio unrhyw beth ar gyfer y garafán neu’r dent mae siop Go Outdoor ym Mangor a Dinas sydd ar y ffordd i Foduan.

Cofiwch adael amser i fynd i’r Steddfod!.