Blas o’r Steddfod

Busnesau lleol fydd ar y Maes i’n temptio!

gan Elliw Llyr

Dyma ychydig o fusnesau lleol fydd ar y Maes y Steddfod eleni:

Bydd Clyd, cwmni sydd yn creu dillad merched, dynion a phlant ar y maes gyda’i merched Cymreig poblogaidd Elsi, Jini ac Anni Byniaeth, cofiwch alw draw i weld Mr a Mrs Clyd!

Bydd Elin Mair wnaeth greu y Goron, y gof Ann Catrin Evans a gemwaith Angela Evans hefo stondinau. Mae eu Siop Iard newydd ddathlu 10 mlynedd o fusnes gyda diwrnod llewyrchus o ddathlu hefo cacenni, melysion, Prosecco yn eu siop.

Bydd Canhwyllau Eryri, sydd newydd agor siop ar Stryd y Plas, ar y Maes gyda’u Canhwyllau persawrus. Mae siop Mirsi gyda detholiad chwaethus o ddillad fydd yn addas ar gyfer y Maes a digwyddiadau’r nos.

Mae Cyfarchion sydd yn creu cardiau a fframiau wedi ei gwneud â llaw ynghyd ag Adra sydd yn gwerthu nwyddau cartref hefo stondinau.

Bydd gwneuthurwyr lleol Gola sydd yn creu lampau unigryw gyda defnydd retro neu gynllun mapiau a Chrefftau’r Gelli gyda nwyddau Cymraeg ar y Maes. Cewch alw draw hefo’r arlunydd Lisa Eurgain gyda’i phaentiadau sydd wedi ysbrydoli gan Eryri.

Mae hyn yn flas o beth fydd yn eich aros yn yr Eisteddfod, mond gobeithio am dywydd rwan!