Dyma gyfres newydd sy’n gyfle i ni ddod i nabod rhai o bersonoliaethau Caernarfon ychydig yn well pob mis.
Enw: Rhys Iorwerth
Gwaith: Cyfieithydd llawrydd ac awdur/bardd
Beth yw dy gysylltiad â Chaernarfon? Wedi fy magu a bod i’r ysgol yma, cyn symud i Gaerdydd am bymtheg mlynedd. Mi ddois i ’nôl i’r dre i fyw yn 2016, a heb ddifaru dim.
Disgrifia dy hun mewn tri gair. Casäwr bananas digyfaddawd.
Nickname? Mi enillodd ‘Ioro’ ei blwyf yn y coleg.
Unrhyw hoff atgof plentyndod? Aroglau gwair gwlyb a mwd yn dal i ddod ag atgofion o foreau Sadwrn yn chwarae i Cae Gwyn United, tua 1990-1997.
Y digwyddiad achosodd fwyaf o emabaras iti? Penderfynu rhoi fy enw i lawr i ganu unawd cerdd dant yn Eisteddfod Ysgol Syr Hugh Owen, 1995. Es i ddim yn ôl ar ôl yr ymarfer cynta’ am resymau y byddai’n well gen i beidio â’u hail-fyw.
Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn? Nad ydw i’n gallu canu cerdd dant.
Pwy yw dy arwr? Jurgen Klopp.
Y peth gorau am Gaernarfon? Bod yma dipyn bach o bob peth, ynghyd â phobl sy’n cadw traed pawb ar y ddaear.
Beth yw dy ddiddordebau? Coginio, gwylio pêl-droed, rhedeg, seiclo. Darllen pan fydd gen i bum munud prin.
Oes gennyt ti ofn rhywbeth? Cŵn. Dydyn nhw ddim yn fy licio fi, a dydw innau ddim yn eu licio nhw.
Pryd wnes di grio ddiwethaf? Diwrnod cyntaf Magw fy merch yn yr ysgol yn ddiweddar. Doedd yna ddim dagrau ar y bochau, ond roeddwn i’n crio y tu mewn.
Beth yw dy hoff air? Pendramwnwgl.
Hoff ffilm, lyfr neu albym a pham? Y gyfrol ‘Cilmeri a Cherddi Eraill’ gan Gerallt Lloyd Owen, oherwydd bod y grefft o gynganeddu ynddi ar ei thynnaf, mwyaf graenus un.
Beth yw dy ddiod arferol? Te du melys yn y bore, peint o Carling liw nos.
Beth yw dy hoff bryd o fwyd? Sbageti bolonês Siwan fy ngwraig.
Beth ydy’r ffaith fwyaf diddorol amdanat? Dwi’n eitha’ licio fy mod i’n tarddu o sawl rhan o Gymru. Fy nain o Sir Ddinbych, fy nhaid o Sir Feirionnydd, a fy mam-gu a fy nhad-cu o gymoedd glo’r De.
Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd? Erioed wedi bod yn arbennig o uchelgeisiol, dim ond derbyn be’ ddaw. Ond fel bardd, mae’n siŵr bod ennill y Gadair ar y rhestr ac mi fûm i’n ffodus iawn o wneud hynny’n reit ifanc.
Sut fasa ti’n treulio dy ddiwrnod olaf ar y blaned?
Gwylio gêm o bêl-droed yn y Twthill neu’r Alex. Tecawê Chinese ar y ffordd adra i’w fwynhau efo’r teulu bach.
Pa lun sy’n bwysig i ti, a pham? Mi oedd y steddfod eleni yn un hapus iawn, ac mae’r llun yma’n crynhoi hynny.
Petai modd i ti gael bod yn unrhyw un neu unrhyw beth arall, pwy/beth fasa ti’n ddewis? Dafydd ap Gwilym. Mi fysa gallu profi’r oes honno yn anhygoel.
Naill ai neu:
- Te neu goffi? Te bob tro, ond dim ond un banad y dydd.
- Y traeth neu’r mynyddoedd? Mynyddoedd
- Nadolig neu ben-blwydd? Nadolig
- Ffilm neu nofel? Nofel
- Creision neu siocled? Creision – halan a finag plîs.
Pwy ti’n enwebu at fis Hydref? Chunk