Cannwyll llygaid y Dre

Canhwyllau Eryri yn agor siop yn Stryd y Plas

gan Elliw Llyr
image-10

Siop Canhwyllau Eryri, Stryd y Plas

image-11

Dewis eang yn y Siop

image-12

Hanes creu y nwyddau

image-13

Pecyn anrheg

image-14

Mae bosib personoli’r potyn cannwyll

Mae siop Canhwyllau Eryri yn agor fory dydd Mawrth 20 Mehefin am 10.30 tan 4.30pm. Mae’r cwmni lleol yn creu eu cynnyrch yn y Baracs yn Nantlle gan ddefnyddio cwyr soia, persawr naturiol heb ddim wedi ychwanegu ac yn Fegan gyfeillgar. Mae eu casgliad yn cynnwys canhwyllau, gwêr sydd yn toddi a thryledwr (diffuser).

Mae Casgliad Daioni o Olewau Hanfodol yn helpu canolbwyntio ar egwyddorion meddwlgarwch- sef Ymlacio, Hapus ac Egni. Mae posib dewis  3 maint sydd yn siwtio faint mae rhywun eisiau ei wario.

Chwe blynedd yn ôl dechreuodd y busnes ac un o’i stondin cyntaf oedd yn Ffair Grefftau Neuadd y Farchnad a nawr mae eu siop yn agor reit dros ffordd i’r Neuadd y gan wireddu  breuddwyd i Aled, perchennog y busnes.

Roedd agor siop yn rhan o gynllun tymor hir ond pan ddaeth y cyfle i agor ar Stryd y Palas rhaid oedd mentro. Mae yn frodor o Dre ac mae’r croeso sydd ’di bod gan fusnesau lleol yn Dre a’r gymuned yn y Stryd wedi bod yn anhygoel meddai.

Mae bosib cael caead y potyn gwydr wedi ei personoli fel mae y cwsmer eisiau. Mae hefyd posib prynu Cerdyn Anrheg fel gall bobl ddewis pa arogl sydd orau ganddynt eu hunain, hefo cyfnod gwario hael mae hwn yn opsiwn os da chi ddim yn siŵr pa arogl fasa yn siwtio orau.

Mae’r casgliadau wedi cael sylw mewn cylchgronau adnabyddus fel Vogue a Tatler gyda momentwm mewn diddordeb wedi cynyddu yn gyson. Mae posib dewis cannwyll hefo label Cymraeg neu Saesneg ac mae posib cael pecynnau anrheg mewn bagia hesian del.

Mae Casgliad Nodedig newydd ei lansio, Eryri, Môn a Llŷn, mae bob un hefo arogl sydd yn cydio teimlad yr ardaloedd hyn. Eryri gydag oglau o awyr agored, Môn yn oglau y môr a Llŷn yn gymysgedd o’r awyr agored a’r môr.

Bydd silffoedd yn gwerthu casgliad bychan o gardiau lleol ac anifeiliaid ffelt hefyd fel bod y siop yn cynnig dewis o anrhegion.

Bydd gan Ganhwyllau Eryri stondin yn Steddfod yn ogystal â nwyddau ar gael yn Llangefni,Biwmaris,Rhosneigr, Beddgelert, Bethesda, Pwllheli, Llanfairfechan a Ddinbych rownd y flwyddyn.

Bydd y siop ar agor Dydd Mawrth tan Dydd Sadwrn o fory ymlaen.