Yn dilyn llwyddiant cynllun peilot nôl yn 2022, mae un o brosiectau cymunedol Galeri Caernarfon, Canfas, yn chwilio am bobl greadigol i weithio ar ddarnau o gelf newydd yn y dref.
Yn y cynllun peilot, creodd yr artist Teresa Jenellen faner enfawr oedd yn cynrychioli un o enwogion morwrol y dre, Ellen Edwards. Ymddangosodd y faner ar un o feysydd parcio’r cyngor yn Noc Fictoria.
Y gobaith nawr yw creu mwy o waith celf newydd yn y dref, fydd yn cynrychioli hanes a phobl Caernarfon.
Yn ôl Alaw Llwyd, cydlynydd y prosiect, “Yn ystod rhan gyntaf y prosiect, mi yda ni wedi bod yn casglu straeon ac atgofion pobl dre dros y blynyddoedd. O boblogrwydd Clwb Tan-y-bont i fwrlwm Stryd Llyn, mae na gymaint o hanesion difyr fydd yn siŵr o sbarduno creadigrwydd.
“Mi yda ni rŵan yn chwilio am unigolion creadigol i weithio efo ni ar fwy o ddarnau celf. Mi yda ni yn hollol agored i syniadau newydd – mi allent fod yn gerfluniau, gosodiad creadigol neu berfformiad creadigol – does dim cyfyngiad ar beth allai gael ei greu a dwi’n awyddus i glywed syniadau o bob math.”
Mi fydd cyfarfod agored yn cael ei gynnal ar-lein ar y 26 o Fedi, i egluro mwy am y cynllun ac i rannu briff ar gyfer tri darn o waith, a’r themâu posibl, y mae Canfas yn gobeithio eu comisiynu.
Ychwanegodd Alaw, “Mi fyddwn i yn annog pobl greadigol, o bob oed, i ymuno â ni yn y cyfarfod agored yma.
“Y gobaith ydy y bydd y gymuned greadigol yn gweld cyfle fan hyn i greu neu gynnal rhywbeth arbennig, unigryw fydd yn cynrychioli Caernarfon a’i phobl.”
Mae’r prosiect hwn, sy’n un o brosiectau cymunedol Galeri Caernarfon, wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chynllun Trawsnewid Trefi Cyngor Gwynedd.
Yn ôl Gwyn Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Galeri “Mae’r prosiect yma yn rhoi cyfle i’r gymuned leol rannu eu straeon a’u hanesion nhw – eu hatgofion a’u hargraffiadau ond hefyd be ma nhw dal i garu am dref unigryw Caernarfon.
“Ac mae’r straeon hynny, a’r cyfle i’w mynegi dan arweiniad creadigol y prosiect hwn, yn siŵr o greu rhywbeth arbennig iawn.”
Bydd cyfarfod agored i rannu manylion am y cyfleodd creadigol yn cael ei gynnal dros Zoom ar y 26 o Fedi, a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y gwaith dydd Mercher, 18ed o Hydref 2023.
Os byddech chi’n hoffi ymuno yn y cyfarfod, eisiau manylion am y cynllun neu os oes gennych chi straeon yr hoffech eu rhannu am Gaernarfon, e-bostiwch canfas@galericaernarfon.com.