Cyfarfod Cyhoeddus Gŵyl Fwyd Caernarfon

Cyfle i ddysgu a chyfrannu i un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf y dref.

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Dewch draw i Institiwt, Caernarfon ar y 26ain o Fehefin ar gyfer Cyfarfod Cyhoeddus Gŵyl Fwyd Caernarfon.

Bydd cyfle i chi ddysgu a chyfrannu’n ystod y cyfarfod. Bydd aelodau o’r pwyllgor yn rhannu gwybodaeth am yr Ŵyl ei hun, yn clywed eich barn a’ch syniadau chi a hefyd bydd cyfle i aelodau roi ei enwau ymlaen ar gyfer is-bwyllgorau’r Ŵyl a chlywed sut y gallwch gefnogi’r Ŵyl trwy’r flwyddyn.

Bydd y cyfarfod yn cychwyn am 6:30 a mae croeso cynnes i bawb. Dewch draw i wneud Gŵyl 2024 yr un orau eto!