Cyhoeddi artistiaid Bragdy’r Beirdd i ddathlu camp Rhys Iorwerth

Pa artistiaid fydd yn ymddangos yn y digwyddiad nos Sadwrn

Nici Beech
gan Nici Beech

Heddiw fe gadarnhaodd y trefnwyr pa artistiaid fydd yn ymddangos yn y digwyddiad i anrhydeddu llwyddiant Rhys Iorwerth, a gipiodd y Goron fawreddog yn yr Eisteddfod eleni.

Cynhelir noson Bragdy’r Beirdd: Dathlu Gregor a’i Goron yn Yr Hen Lys, Caernarfon, ddydd Sadwrn, Hydref 7, gan ddechrau am 7:30 pm ac yn cyfrannu at y noson bydd amrywiaeth o feirdd a chantorion, pob un yn dod â’u llais a’u persbectif unigryw i’r llwyfan i gyfarch Rhys neu i edrych yn ôl ar Eisteddfod wych haf 2023.

Yn ddi-os bydd nifer o wynebau cyfarwydd, a blas lleol i’r noson gan mai Ifor ap Glyn fydd wrth y llyw yn arwain y noson a Geraint Lovgreen a Hywel Pitts yn cyfrannu caneuon hwyliog wrth y piano. Mae Marged Tudur ac Iwan Rhys, rhai o gyd-aelodau Rhys yn nhîm Dros Yr Aber, pencampwyr Y Talwrn 2023 ymysg y rhai sy’n cyfrannu ac yn trefnu’r noson, ynghyd ag Osian Owen a Nici Beech.  Bydd Iestyn Tyne, oedd yn agos iawn at gipio’r goron ei hun eleni yn holi Rhys am ei gamp gydag Arwyn Groe, Arwel Pod Roberts, Hywel Griffiths, Sara Louise Wheeler, Nia Powell a Buddug Roberts yn teithio rhai milltiroedd i ymuno yn y dathlu. Yn teithio o gryn bellter i fyny’r A470 i gyfarch bydd Mari George ac Osian Rhys Jones, yn ogystal â  Marc Le Siarc, porthor y Bragdy, i groesawu’r gynulleidfa i’r Hen Lys.

Y llynedd, trefnwyd noson debyg i ddathlu camp un arall o feirdd Caernarfon, sef Llŷr Gwyn Lewis, a enillodd y Gadair yn Nhregaron, ac roedd y digwyddiad hwnnw’n llwyddiant ysgubol. Rhoddwyd yr elw o’r noson honno yn hael i bwyllgor apêl leol Caernarfon, i godi arian ar gyfer yr Eisteddfod ym Moduan ac eleni, mae’r traddodiad yn parhau wrth i Rhys Iorwerth, ddewis Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024 i dderbyn elw’r noson.

Mae galw mawr am docynnau, gyda dros hanner ohonynt eisoes wedi’u bachu. Maent ar werth ymlaen llaw am £10 yn unig a gellir eu prynu yn siop lyfrau Palas Print neu ar-lein drwy ddilyn y ddolen hon i archebu ac wedyn gwneud taliad uniongyrchol o’ch cyfrif banc.

Yr holl gyfrannwyr:

Arwel Pod Roberts

Buddug Roberts

Geraint Lovgreen

Hywel Griffiths

Hywel Pitts

Iestyn Tyne

Ifor ap Glyn

Iwan Rhys

Marc Le Siarc

Marged Tudur

Mari George

Nia Powell

Nici Beech

Osian Rhys Jones

Rhys Iorwerth

Sara Louise Wheeler