Diwrnod Dementia yn Galeri, Caernarfon

Eisiau dysgu mwy am ddementia? Mae llwyth o ddigwyddiadau trwy’r dydd

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts
Diwrnod-Dementia-Day-20062023
Diwrnod-Dementia-Day-20062023-1

Ma Cyngor Gwynedd a Dementia Actif Gwynedd yn trefnu diwrnod i bobl ddysgu mwy am ddementia. Gallwch fynychu pob sesiwn neu dim ond y sesiynau sydd o ddiddordeb i chi. Mae croeso cynnes i bawb.

Pwrpas y diwrnod yw gwahodd pobl i ddod draw i ddarganfod sut gallwn ni helpu i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia yn ein cymunedau – mae hynny’n cynnwys y person sydd â diagnosis ac aelodau o’r teulu. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi’i effeithio gan ddementia, felly mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod mwy. Mae’r diwrnod yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau rhyngweithiol ac mae’n rhad ac am ddim.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Galeri, Caernarfon rhwng 10 a 4 ar y 28ain o Fehefin – cewch fynychu’r diwrnod cyfan neu rhan o’r amserlen.

10:00 – 4:00 = Arddangosfa Ffotograffiaeth ‘Perthnasau’

10:30 – 11:30 = Sesiwn Ffrindiau Dementia a Profiad VR

12:00 – 1:00 = Gweithdy Dawns i Bawb – Cymru: Ni

2:00 – 4:00 = Scrinio – The World Turned Upside Down – Ffilm sy’n edrych ar realiti byw gyda dementia a gofalu.

Mae modd archebu’ch lle ar y digwyddiadau fan hyn:

www.eventbrite.com/e/diwrnod-dementia-codi-ymwybyddiaeth-dementia-day-raising-awareness-tickets-642883320317

Neu os byddai’n well gan bobl archebu dros y ffôn neu e-bost – mae croeso iddynt gysylltu â mi:-

07768 9898095 emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru