Fewn i’r rhwyd

Cyfle i gefnogi Tîm Pêlrhwyd Wallis

gan Elliw Llŷr
image-1

Criw yn Tesco

Os byddwch yn siopio yn Tesco rhwng rwan a diwedd Mawrth cofiwch roi tocŷns glas Grant Cymunedol i Dîm Pêlrhwyd Wallis Caernarfon.

Dywedodd Tina, sydd yn helpu gyda’r Clwb, bydd y Grant yn helpu hefo costau hyfforddiant, costau cwrt, buddsoddiad mewn dyfarnwyr a hyfforddwyr er mwyn i’r Clwb fod yn gynaliadwy hefo cynnydd mewn aelodaeth ac offer.

Felly cofiwch, fewn i’r rhwyd â nhw!