Oni fyddai yn Haf o hyd!

Llwyddiant Gŵyl Fwyd hefo Hwyl Dros yr Aber

gan Elliw Llyr
image

Gweithdy Sambwced

image-1

Lleisiau Llawen

image-2

Braf gweld defnydd o’r Parc

image-3

Nifer o bobl yn mwynhau yr haul

Roedd haul tanbaid dydd Sadwrn yn coroni diwedd yr Haf i bobl Caernarfon gyda degau yn tyrru dros y bont i fwynhau pnawn hamddenol o fandiau lleol, gemau a chastell bownsio, sêl cist car, bwyd a diod lleol.

Dywedodd Cynghorydd Caí Larsen ‘llongyfarchiadau i griw gwych Gŵyl Fwyd Caernarfon ac am sicrhau tywydd da ar gyfer y digwyddiad- mae ganddynt allu anhygoel i wneud hynny!’

Disgrifiodd un o’r trefnwyr, Nici Beech, ’diwrnod gwych’ gan ddiolch am y gwaith caled ac am y gefnogaeth.

Mae trefniadau ar waith i drefnu Loompah Noson yn Neuadd y Farchnad ar 15 Hydref a Marchnad Nadolig gan ddefnyddio gofod yn Yr Orsaf a’r Hen Lys fydd yn cael ei gynnal yr un diwrnod â Marchnad Nadolig Galeri ar 18 Tachwedd.