gan
Mirain Llwyd
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/13/2023/11/Patagonia-23.11.23-640x396.jpg?0)
Ar ôl taith fythgofiadwy draw i Batagonia mae rhai o ddisgyblion Syr Hugh Owen am gynnal noson yn Llety Arall er mwyn rhannu lluniau, storiâu a phrofiadau o’r cyfle hwn.
Dewch draw i Lety Arall, Caernarfon, i glywed hanesion y criw aeth draw am gyfnod yn niwedd Hydref. Bydd cyfle i glywed y cyflwyniad ar nos Iau Tachwedd y 23ain am 7yh.
£4 yw cost mynediad ac mae tocynnau ar gael o Ysgol Syr Hugh Owen a trwy ffonio Llety Arall.