Garsiwn y Castell yn chwilio am wirfoddolwyr

Oes gennych chi amser i gael hwyl,gwisgo fyny a helpu dathlu Diwrnod Owain Glyndwr?

gan Elliw Llyr
image-2

Gorymdaith Conwy

image-3

Codi ofn yn y Castell!

Mae Garsiwn y Castell yn chwilio am wirfoddolwyr. Maent yn disgrifio eu hunain fel ‘gwirfoddolwyr sydd o’r un anian, sy’n gwisgo’n ganoloesol, yn llawn hwyl ac yn rabl ddi-ffit’.

Maent yn trefnu gweithgareddau hwyliog ar thema ganoloesol sy’n addas i’r teulu cyfan o fewn muriau Castell Caernarfon a hen furiau’r dref gan hefyd fynychu ychydig o ddigwyddiadau eraill yn yr ardal fel Gorymdaith Golau Conwy.

Mae ganddynt galendr o ddigwyddiadau yn y Castell ar gyfer 2023, yn ogystal, gellir eu gweld yn llechu o gwmpas yr hen dref neu y tu mewn i’r Castell ar benwythnosau os ydi’r tywydd yn sych ac maent yn teimlo fel ychydig o hwyl!

Mae ganddynt gynllun i ddathlu Diwrnod Owain Glyndŵr, ar 16 Medi, fydd yn cynnwys siopa lleol yng nghyd â gweithgareddau diwrnod hwyl i’r teulu i ddenu a difyrru pawb.

Os ydych am fod yn rhan o’n diwrnodau dathlu â hwyl, anfonwch neges drwy Facebook ‘Castle Garrison’. Dywedodd un o’r Garsiwn ‘Os ydych chi’n digwydd bod wrth eich bodd yn cael hwyl, hoffi gwisgo i fyny a bod gennych synnwyr digrifwch drygionus a chyfeillgar, yna beth am ymuno â’r garsiwn’

Cewch fynd draw i Gastell Caernarfon ar 11 Mawrth i gwrdd â’r criw i wybod mwy am wirfoddoli, maent hefyd yn chwilio am gerddorion a chellweiriwyr i ymuno â nhw.