Ai Llanast neu Lwyddiant oedd Llŷn?

Digwyddiadau’r Eisteddfod o safbwynt pobl ifanc.

gan Elin Llwyd Brychan
C0B9ED8F-B1EF-4719-AB1E
1930F9B2-1E2A-4187-816D
4736145D-3A07-4CED-A712
5F0F63AF-490E-440C-8190

Yn dilyn yr Eisteddfod mae llawer o gwynion wedi bod am amrywiaeth o bethau a ddigwyddodd yn ystod yr wythnos, felly rwyf eisiau cymryd y cyfle hwn i ffocysu ar yr ochr gadarnhaol o’r Eisteddfod a gwerthfawrogi’r brifwyl arbennig sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Am y tro cyntaf ers blynyddoedd fe wnaeth yr Eisteddfod ddychwelyd i ardal Llŷn ac Eifionydd. Ar ôl aros tair blynedd yn ychwanegol roedd trigolion yr ardal yn barod am eu gŵyl. Roedd pawb wedi gweithio yn ofnadwy o galed er mwyn gwneud hon yn ’Steddfod gwerth ei chofio. Casglwyd y swm fwyaf o arian erioed!

Mae’r Eisteddfod yn ŵyl sydd yn rhoi cyfle i bobl ddianc o’u bywydau arferol am wythnos yn enwedig i bobl ifanc Cymru. Am wythnos gyfan rydym yn cael dathlu ein hunaniaeth a’n traddodiadau, cymdeithasu â phobl o ardaloedd eraill a darganfod pwy ydym ni fel pobl.

Mae’r Eisteddfod yn rhoi cyfle i ni ddod i adnabod rhannau newydd o Gymru na fyddem ni yn arferol yn cael y cyfle i ymweld â nhw. Yn ogystal, mae’n cyfrannu’n helaeth at yr economi leol.

Yr Eisteddfod yw uchafbwynt y flwyddyn i nifer fawr o bobl. Er ein bod yn cwyno pob blwyddyn yn ddi-ffael am y tywydd, y mwd, ciw’r cawodydd, safon y toiledau a phris y bwyd, rydym ni gyd yn gwybod mai’r rhain yw’r pethau sydd yn gwneud ’steddfod yn ’steddfod a ni fuasai’r un fath hebddyn nhw.

Diolchiadau

Diolch yn fawr i …

  • bawb wnaeth gyfrannu arian a chynnal digwyddiadau er mwyn casglu arian.
  • Yr holl bobl wnaeth wirfoddoli yn ystod yr wythnos a drwy gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau bod yr Eisteddfod yn digwydd a sicrhau ei ddyfodol.
  • Staff y toiledau am sicrhau eu bod yn lân, bod papur tŷ bach ac am fod yn amyneddgar gan gadw trefn ar bawb oedd yn eu defnyddio.
  • Staff wnaeth gludo pobl i fyny i’r maes carafanau drwy’r dydd.
  • Criw teledu am roi popeth yn fyw ar y teledu a thynnu lluniau gwych o bawb.
  • Dŵr Cymru am ddarparu poteli a dŵr am ddim.
  • Holl staff yr Eisteddfod am eu hymroddiad.

Barn y Cyhoedd

Fe es i ati i gyfweld â rhai o bobl ifanc yr ardal gan ofyn iddyn nhw -Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf yn yr Eisteddfod?

“Cael cymryd rhan yn y Twmpath Dawns yn y Tŷ Gwerin yn y nos. Mi roedd o’n brofiad newydd ond hwyl gyda fy ffrindiau.” – Merch 14 oed o Bontnewydd

“Awyrgylch y Pafiliwn yn enwedig gwylio Dym@ Ni a Dysgwr y Flwyddyn a mi wnes i hefyd fwynhau y gigs gyda’r nos.”- Merch 13 oed o Gaernarfon

“Gig Candelas oherwydd roedd o’n hwyl.” – Merch 15 oed Dinas

“Cael ‘iced bun’ o Becws Islyn. Odd o yn gynnas ag odd o yn blasu fel y peth neisia erioed ag odd o ond yn £1.50” – Merch 14 oed o Gaernarfon

“Disgo tawel yn Paned o Ge efo Mistar Urdd.”- Merch 15 oed o Landwrog

“Y dewis eang o bethau oedd ar gael i mi wneud e.e. mynd i’r Tŷ Gwerin, gweld dramâu yng Nghaffi Maes B, gwerthu cyfansoddiadau a gweld y bandiau.” – Merch 15 oed o Gaernarfon

“Fy hoff ran o’r Eisteddfod eleni odd cael mwynhau dramâu gan Theatr Gen Cymru, Theatr Clwyd gan roi blas ar ochr gelfyddydol Cymru.” – Merch 15 oed o Lanwnda

“Y peth wnes i fwynhau fwyaf oedd cael mynd o gwmpas gyda fy ffrindiau yn annibynnol a chael mwynhau’r bwydydd gwahanol am y tro cyntaf.” – Hogyn 11 oed o Bontnewydd