Llety Arall yn cynnal diwrnod gwirfoddoli fory!

Oes gennych chi awr neu ddwy i’w sbario fory? Beth am fynd draw i Llety Arall!

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Rhwng 10 a 2 bydd Llety Arall yn agor ei drysau i’ch croesawu i’w helpu i wneud amryw o dasgau! Does dim rhaid aros am y pedair awr, bydd croeso cynnes a gwerthfawrogiad pa bynnag mor hir y gallwch aros.

Bydd digonedd i’w wneud a chyfle i dorchi llewys wrth baentio, clirio, uwchgylchu dodrefn, pwytho botymau a thrwsio eitemau – rhywbeth at ddant pawb dwi’n siŵr! Os oes gennych unrhyw frwshys, tŵls neu offer defnyddiol i’w defnyddio bydd hynny hefyd i’w groesawu.

Dros ginio bydd Bwrdd Pori ac mae Llety Arall yn gofyn yn garedig i bawb sydd eisiau aros dros ginio ddod ag eitem i’w gyfrannu.

Bydd te a choffi ar gael trwy’r dydd a chofiwch eich dillad bob dydd!

Mae Llety Arall hefyd yn awyddus gyda chymorth yr artist Sioned Glyn i uwchgylchu dodrefn gan gynnwys ymadroddion, llinellau o gerddi a geiriau pwysig i bobl Caernarfon – os oes gennych unrhyw syniad gyrrwch neges draw i gyfrifon cymdeithasol Llety Arall.

Bydd drws ochr Llety Arall ar agor – trowch i fyny’r ochr am Ouzo ac Olive ac mae’r drws ar y dde.