Owain Glyndwr – Ble Mae O?

Dyma oedd enw drama Mewn Cymeriad nos Sadwrn yn y Castell oedd yn llawn cymeriadau!

gan Elliw Llyr
image-4

Y Brenin Harri’r IV yn mynd trwy ei bethau!

image-5

Y gynulleidfa yn cymryd rhan yn yr adloniant

Yn wir, roedd y ddrama yn llawn cymeriadau a hwyl yn dilyn ei ohirio nos Fawrth oherwydd y tywydd garw. Daeth tyrfa dda yno hefo eu cadeiriau, blancedi ac ambell babell! Roedd llawer wedi gwneud ei ffordd draw i’r Castell ar ôl bod yng Ngorymdaith Yes Cymru ym Mangor. Roedd prif negeseuon y ddrama yn gyson hefo’r orymdaith ac yn gymysgedd dda o hwyl a chwerthin gyda nifer o gyfeiriadau i’r Gymru yn yr 21ain ganrif.

Owen Alun, Sion Emyr, Ffion Glyn a Sarah Morgan oedd yn chware nifer o gymeriadau gwahanol yn ystod y noson gydag Owain Glyndwr yn cael ei alw yn OG, Owain Glendower ag Owain Glyndyfriog, dibynnu pwy oedd yn dweud ei enw.

Fel y gwyddom, nid oedd Brenin Harri IV yn hapus gyda’r hen OG a gwir dweud nad oedd y gynulleidfa yn or hoff ohono gan wneud yn siŵr ei fod yn deall hynny gyda’u gweiddi, bwian a hisian! Roedd gan y Brenin feddwl y byd o’i fab, Harri V, er fasa well ganddo fo chware gem Call of Duty ar ei gyfrifiadur na mynd i ryfela yn 13 oed! Roedd Henry Percy, oedd hefo llys enw Hotspur, yn ffrind da i’r Brenin ac yn dod ar garlam ac yn chwys lafar bob tro doi ar y llwyfan gan geisio falshio er mwyn cadw ar ochr orau’r Brenin.

Yn ystod cyfnod y rhyfeloedd galwyd ar y Tuduriaid, neu’r ddau Tudur Fudur o Ynys Môn, i gynorthwyo Owain. Cafwyd cwffio, rhedeg o gwmpas, gweiddi gan y gynulleidfa a lladd gelynion fel rhan o bortreadu’r rhyfel am gyfiawnder a thecwch. Galwyd Siarl VI Brenin Ffrainc dros Skype i ofyn am ei gymorth ac wrth gwrs roedd yr hen Siarl ar mute, fel da ni gyd di neud, tra ar alwad fideo! Penderfynodd Owain sgwennu llythyr ato, sef Llythyr Pennal, sydd i’w weld yn Senedd Owain Glyndwr ym Machynlleth, i ofyn am gymorth. Ond ni ddaeth y cymorth a obeithiwyd amdano.

Fe garcharwyd mab OG, Gruffudd ab Owain, yn Llundain a pan ofynnwyd i’r gynulleidfa os oedda’ nhw eisiau ei weld yn rhydd ’nag oes’ medda’r plant- doedd hwnnw ddim sicr o’r sgript!

Roedd edliw bod merched adeg hynny hefo rôl gyfyng o baratoi bwyd a medd gyda merch OG yn gofyn, mewn amser fe gai fynd i Goleg fyddi di wedi sefydlu caf Dad?

Roedd y gynulleidfa yn cael eu hannog i ystyried negeseuon oesol Owain wrth gymryd rhan yn y noson. Cafwyd cymysgedd o rapio, iodlo a chynnal gem o charades hefo cloman! Noson hwyliog ddaeth a diwrnod hefo teimlad o genedlaetholdeb i ben yn berffaith.