Lle i gael saib yn Segontiwm

Bydd Caffi a Bar newydd yn agor yn Dre nos Iau

gan Elliw Llyr
image-5

Yr arwydd fydd fyny cyn hir!

image-6

Lluniau wrth y Bar

image-7

Dewi y Barista

image-8

Lluniau yn y stafell gyfforddus

image-9

Lluniau wrth ffenestr sydd yn edrych dros yr afon

Bydd y Segontiwm yn agor ei drysau, 8 Mehefin, gan gynnig lle i greu neu gael saib gan berchnogion Full Life Colour. Cefais groeso braf gan Dewi a Sara wrth iddynt fy nhywys o gwmpas gofod ar wahanol loriau fydd yn cynnig wbath gwahanol. Bydd y stafelloedd ar y Stryd Segontiwm yn cynnig lle i eistedd tu allan a thu fewn hefo lluniau gan artistiaid ar ddangos ac i’w prynu. Cewch weld lluniau gan artist preswyl Joycelyn Roberts, Ann Lewis hefo luniau ar lino a dyfrlliw gan Andrew Jenkin.

Cewch lasiad o win, cwrw lleol neu baned gan Dewi, y Barista cymwys. Yn ôl sôn Espresso Martini i’w ei arbenigedd. Mae’r bar a stafell wrth ei ochr wedi ei gadw yn le cyfforddus; lle i gael sgwrs, darllen llyfr neu chware gemau fel gwyddbwyll.

Ar yr ail lawr ceir gofod stiwdio agored lle bydd artistiaid yn cael dwad at ei gilydd i ddefnyddio’r adnoddau Bydd y golygfeydd am yr afon a’r Cei yn siŵr o roi ysbrydoliaeth.

Llawr arall wedyn uwchben sydd yn rhoi noddfa i gynnal cyfarfod busnes gyda Sara, fel arbenigwr strategaeth busnes, yn cynnig cyfle i bobl ddod at ei gilydd i wneud celf a symud ei meddyliau er mwyn creu syniadau o fewn busnesau ac awdurdodau neu wasanaethau lleol.

Wrth feddwl am yr enw, Y Segontiwm, dywedodd Dewi eu bod eisiau cadw’r peth yn syml ac yn hawdd ei ffendio ar Rhes Segontiwm! Mae yn falch o hanes y lle a bod yr enw yn dwad o’r Lladin am ger yr afon, ’dwi yn edrych ymlaen at allu pasio gwybodaeth leol sydd gen i’r bobl fydd yn galw fewn’.

Mae Sara, perchennog Y Segontiwm, yn awyddus i ddysgu Cymraeg ac yn edrych ymlaen at bigo’r iaith i fyny wrth wrando a chymysgu wrth gynnal nosweithiau cerddoriaeth byw a sgyrsiau difyr wrth y bar. ‘ Dywedodd Sara ‘Dwi eisiau dysgu’r iaith a chynnig lle i unrhyw artist sydd yn cychwyn eu gyrfa neu rhai sydd fwy profiadol i allu dwad yma i gymysgu, rhannu syniad a chael cyfle i greu’.

Bydd cyfle i artistiaid cymryd rhan mewn cynllun cyfnewid hefo’r ddinas  fawr, Efrog Newydd. Bydd yr artist cyntaf yn dwad draw yma dechrau mis nesaf. Bydd Charity Baker yn dod drosodd ac yn cael cyfle i ddefnyddio’r stiwdio a chrwydro’r ardal fel rhan o’i hysbrydoliaeth i greu tra yma.

Mae ganddynt nifer o syniad eraill cyffrous fydd yn siŵr o ddenu pobl fewn,boed yn artist neu ddim, dros y mis oedd nesaf.