‘Aeth Ysgol Syr Hugh i’r Wladfa…’

Hanes taith Ysgol Syr Hugh i Batagonia.

gan Elin Llwyd Brychan
D3214535-122A-43E5-8D23
F7104591-BFD3-4AD6-8CB9
A34DC63A-A3BF-40F8-94B4

Yn ddiweddar rwyf i, 34 disgybl arall, a 6 o athrawon, wedi bod yn ddigon ffodus o gael gweld byd y tu hwnt i Gymru, byd yr wyf cyn hyn ond wedi breuddwydio amdano. Rwy’n sôn wrth gwrs am daith ysgol Syr Hugh i Batagonia.

Ar ôl dwy flynedd o aros fe ddechreuodd yr antur am 4:30 bore dydd Mercher, y 25ain o Hydref ac yna dychwelyd bythefnos yn ddiweddarach yn llawn hiraeth am beth yr oedden wedi ei adael ar ôl ond hefyd hanesion difyr ac atgofion melys.

Wrth feddwl am y daith i’r Wladfa fyswn i byth wedi dychmygu y buaswn yn dyheu am gael mynd yn ôl o’r munud y cyrhaeddais adref. Wrth gwrs roedd dychwelyd adref i’n bywyd arferol yn mynd i fod yn anodd ond roedd yn gwestiwn gen i pam yr oeddwn yn teimlo ar goll yn fy nghartref fy hun. Y rheswm pennaf dros hynny, oedd y ffaith ein bod wedi treulio bob eiliad o bob diwrnod yng nghwmni ein gilydd am bythefnos cyfan. Rydym wedi rhannu profiadau bythgofiadwy, hwyliog, ac emosiynol ar adegau. Hynny o geisio dal awyren heb golli person i ddawnsio gwerin gyda phlant o’r ysgolion lleol.

Roedd ein hamserlen yn llawn, roedd gweithgaredd wedi ei gynllunio ar gyfer pob eiliad o bob dydd. Un o’r rhain oedd  ymweld ag ysgol Gymraeg y Gaiman. Profiad ofnadwy o emosiynol a wnaeth i bawb sylweddoli pa mor ffodus ydym ni. Roedd yr ysgol yn y broses o ehangu ond oherwydd problemau ariannol roedd y broses yn un araf. Nid ydyn nhw chwaith yn gallu cael gwres i hanner yr ysgol felly, mae’n rhaid i rai rhannau gau yn y gaeaf. Problem fawr arall ydi’r prinder athrawon Cymraeg.  Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi cynorthwyo’r ysgolion i gasglu arian er mwyn iddynt gael gwella safon yr adnoddau drwy gynnal tair cyngerdd ar draws y Wladfa. Braint oedd cael cyd-ganu hefyd gyda disgyblion ysgol y Gaiman, yr Hendre, Trevelin a Threlew yn y cyngherddau. Roedd hi’n braf iawn cael gweld Elidyr Glyn ac Alis Glyn yn perfformio yn y cyngherddau a Noson Lawen yr Eisteddfod. ‘Dw i’n siŵr ei fod wedi bod yn brofiad anhygoel i chi’ch dau.

Fe wnaethom ni hefyd ymweld ag ysgol uwchradd Coleg Camwy tra yr oeddem yno. ‘Dw i’n gwybod mai peth gwirion i’w ddweud byddai fy mod ddim wedi disgwyl clywed gymaint o Gymraeg a gweld gymaint o’n traddodiadau ni yn yr ysgol uwchradd, ond yn wirioneddol cefais fy syfrdanu gan allu’r disgyblion i gyfathrebu gyda ni. Cafwyd croeso cynnes iawn gan bawb ac roeddent yn amlwg yn awyddus i ddysgu am ein diwylliant ac i ymarfer eu Cymraeg. Pleser oedd cael treulio’r prynhawn yn eu cwmni.

Cawsom hefyd groeso cynnes iawn gan nifer o unigolion a grwpiau megis Clwb y Ddraig Goch. Bu’m ni’n lwcus iawn o gael mynychu dau asado yno. Asado yr Eisteddfod, a oedd ddim wedi cael ei chynnal ers blynyddoedd, a hefyd asado gyda chriw’r timau rygbi a hoci. Cafwyd cyfle i ymweld â’r caeau chwaraeon a chwarae ambell i gêm hefyd. Yn ogystal, fe wnaethom ni gael blas ar ddawnsio gwerin yn ystod yr asado ’steddfod.

Profiad hynod gyffrous a newydd i mi oedd cael mynd i’r Gymanfa Ganu. Roedd y capel miloedd o filltiroedd i ffwrdd, yn union fel capel traddodiadol Cymreig, gan gynnwys y seddi caled, anghyfforddus. Roedd y lle dan ei sang gyda chymysgedd o Gymry, Archentwyr ac ymwelwyr yr Eisteddfod. Mae’n rhaid i mi ddweud mai disgwyl digwyddiad difrifol a sych yr oeddwn i felly allwch chi ddychmygu’r sioc a gefais pan welais yr angerdd oedd gan yr arweinwyr. Roeddent yn chwifio’u breichiau gyda brwdfrydedd wrth arwain y canu. Cefais wefr wrth glywed sŵn anhygoel y pedwar llais yn atseinio yn y muriau. Wel am brofiad oedd cael darllen nodiant o’r llyfr emynau ac ar ben hynny canu’n ddwyieithog, Cymraeg a Sbaeneg!

Ar ôl treulio wythnos yn y Gaiman roedd hi’n bryd i ni ail ddechrau ar ein taith er mwyn gweld rhan arall o’r Wladfa, sef Trevelin yng Nghwm Hyfryd sydd wrth droed mynyddoedd yr Andes. Roedd yr ardal hon yn hollol wahanol i’r Gaiman ac yn llawer tebycach i Gymru, ond cyn cyrraedd roedd yn rhaid i ni deithio naw awr dros y paith. Cefais fy syfrdanu droeon o weithiau yn ystod ein hymweliad ac un ohonyn nhw oedd y daith hon. Roeddwn yn disgwyl taith ddiflas drwy anialdir gwastad. Ond na, roedd lliwiau prydferth coch ag oren i’w gweld o’n cwmpas, ac roedd mynyddoedd llychlyd, tywodlyd ond prydferth hefyd i’w gweld. Roeddwn wedi gwirioni a’r ffyrdd llydan syth y paith.  Roedd yna rywbeth braf iawn am gael teithio drwy’r distawrwydd. Er hynny cyffro daeth drostaf  wrth i ni stopio mewn garej i gael cinio. Fe wnaeth pawb yn siŵr eu bod yn prynu pentwr o ddanteithion blasus, i fynd ar y bws ond hefyd i fynd ag yn ôl i Gymru. Un o’r sgyrsiau a oedd i’w glywed mwyaf oedd “ma hein yn blasu’n wahanol i rei ni.” ac yna wrth gwrs roedd rhaid dadansoddi’r byrbrydau rheini.

Sôn am fwyd, wrth deithio o un maes awyr i’r llall fe gawsom ni gyfle i drio gwahanol fwydydd newydd a thraddodiadol. Poblogaidd iawn oedd y Cochinas yn Sao Paulo, Brasil. Byrbryd tebyg i croquets oedden nhw, gyda chaws, tatws a chyw iâr. Wrth gwrs, roedd hi’n amhosib ymweld â Chanada heb drio’r saws byd enwog, Maple Syryp, ond yr uchafbwynt i mi oedd y macaroon pistachio mwyaf blasus ym Montreal. Dim ond un gair sydd i ddisgrifio bwyd Yr Ariannin sef bendigedig! Cawsom sawl stêc drwchus iawn, llwyth o doesion megis croissants a hufen ia, sydd yn enwog iawn yn Yr Ariannin. Serch hynny, mawr oedd fy siom pan frathais mewn i fisgeden. Rhywbeth arall yr oeddwn yn hoff iawn ohono oedd y traddodiad o eistedd o amgylch y tan gan yfed maté. Mae bron pob Archentwr yn hoffi maté ac maent yn cario fflasg llawn dwr i bob man gyda nhw er mwyn ail lenwi eu cwpanau, ond roedd yna reolau llym iawn er mwyn ei yfed. Nid ydych yn cael symud y bombilla (y gwelltyn) ar unrhyw gyfrif, mae’n cael ei gylchdroi clocwedd ac mae’n rhaid i’r un person ei wneud bob tro. Traddodiad arall, mwy cyfarwydd i ni, y gwnaethom ei drio oedd ymweld â thŷ te, Tŷ Gwyn. Fe wnaeth pob un ohonom ni fwynhau’r profiad. Serch hynny, er mor wych oedd y bwyd, ar ôl yr holl asados, empanadas, pizzas a heb anghofio’r dulce de leche, gallaf ddweud na fydd yr un ohonom ni eisiau gweld bara na chig am amser hir iawn.

Lleoliad anhygoel arall y cawsom weld oedd Niagara Falls yng Nghanada. Ni allwn anghofio’r pryd bwyd cawsom ni mewn adeilad oedd yn edrych dros y rhaeadr a ffin yr UDA. Roedd ymweld â phrifddinas Yr Ariannin, Buenos Aires hefyd yn un o uchafbwyntiau’r criw.

Mae’r daith hon wedi rhoi blas ar deithio i ni gyd ac wedi ysgogi teimladau cryf ymysg y disgyblion tuag at deithio mwy yn y dyfodol a hefyd dychwelyd i’r Wladfa er mwyn dysgu yn yr ysgolion a chynorthwyo plant i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Diolch enfawr i Mrs Sioned Glyn am drefnu’r cwbl ac am wireddu breuddwydion nifer ohonom. Diolch am ddeffro bob bore gyda gwen ar eich wyneb, does gen i ddim syniad sut y gwnaethoch ymdopi gyda ni gyd am bythefnos cyfan. Yn ogystal, mae’n rhaid i mi ddiolch i’r holl athrawon eraill a wnaeth ddod efo ni. Diolch i Mr Elidyr Glyn am gynau’r tân ym Maes Rhyddid. Roedd y cyffro i’w weld ar wyneb pob disgybl wrth i chi dynnu eich gitâr allan er mwyn canu o’i amgylch. Brenin y pêl-droed oedd Dr Huw, fe wnaeth serennu yn ein twrnament hwyliog. Diolch i Miss Elain Elis a Miss Delyth Hughes am wneud i ni chwerthin wrth roi’r byd yn ei le a diolch i Mrs Siân Jones am gynnal cystadlaethau ysgrifennu limrigau er mwyn ysgafnhau’r teithiau a hefyd er mwyn ein datblygu i fod yn feirdd y dyfodol. Yn ogystal, diolch i chi gyd am ymddwyn mor hamddenol gan wneud i bawb deimlo’n gartrefol yng nghwmni ei gilydd. Rydych chi gyd wedi gwneud y trip hwn yn un gwerth ei chofio.