Yr angen am gerdyn ID i bleidleisio

Beth sy’n gymwys? Sut i bleidleisio heb gerdyn ID addas?

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Bydd etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ar yr 2il o Fai eleni a bydd gofyn i bawb sydd eisiau pleidlais ddangos cerdyn ID yn yr orsaf.

Mae hyn yn rheol newydd ac mae’n bwysig ein bod yn lledaenu’r neges i bawb sydd wedi cofrestru eu pleidlais.

Mae sawl gwahanol fath o ID yn cael ei derbyn a gallwch weld rhestr lawn ar wefan Y Comisiwn Etholiadol.

Ond beth os nad oes gennych unrhyw un o’r rhai sydd ar y rhestr?

Peidiwch â phoeni, mae modd cael tystysgrif arbennig ar gyfer hyn. Gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar-lein ar wefan Y Comisiwn Etholiadol neu gallwch fynd i unrhyw Siop Gwynedd, Cyngor Gwynedd a chael cymorth yn y man hwnnw i gael tystysgrif a fydd yn eich caniatáu i bleidleisio.

Dweud eich dweud