Beics Antur: Ailwampio beic o’r 70au

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai prysur i Aaron yn y siop, adfeilio beic o’r 70au yn ôl i l

gan Ceri Hughes

Siop hurio, trwsio a gwerthu beics yw Beics Antur, wedi’i leoli ym Mhorth yr Aur yng nghanol Caernarfon. Rydym yn arbenigo mewn beics addasedig gyda’r nod o wneud beicio yn hygyrch i bawb. Rhan o deulu Antur Waunfawr yw Beics Antur, rydym yn darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i unigolion ag anableddau dysgu.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae Aaron wedi bod yn brysur yn gweithio ar ei brosiect newydd. Gan ddefnyddio’r wybodaeth y mae wedi’i dysgu trwy weithio ym Meics Antur dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Aaron yn defnyddio ei fedrusrwydd i ailwampio beic gan ddod a’r hen feic yn ôl yn fyw.

Wrth sortio ein storfa un bore yn y flwyddyn newydd, daethom ar draws pentwr o hen feiciau gawsom ni fel rhodd gan gyfaill yn Ynys Môn. Daliodd un ohonynt lygad Aaron, yn eu plith- Vintage Claude Butler o’r 1970au, beic lôn gydag hen ddarnau a gosodiadau oedd yn siarad cyfrolau am ei hanes cyfoethog. Mae ei fag pannier llychlyd yn awgrym cynnil o’r milltiroedd dirifedi y mae’r beic hwn wedi’u gwneud.

Yn dysgu ar hyd y siwrne am sut oedd partiau cyn yr 80au yn cael ei ddylunio i gael eu gwasanaethu ac nid taflu, torchodd Aaron ei lewys a mynd i’r afael efo ei brosiect newydd. Gan ei fod yn gweithio mewn sawl safle ar draw Antur Waunfawr roedd o’n fater o ddod a’r beic yn ei flaen yn dow dow un diwrnod yr wythnos, a chwe wythnos wedyn dyma fo yn powlio’r beic allan i’r awyr iach yn gwenu fel giât, er mwyn cael ei brawf lôn gyntaf. A gadewch i ni ddeud wrthoch chi mae hi’n mynd fel breuddwyd.

Mae ei brofiad ymarferol Aaron ym Meics Antur wedi’i ddarparu â’r ddealltwriaeth a’r technegau angenrheidiol ar gyfer y broses gymhleth o adfer beiciau, gan ddangos ei angerdd dros y grefft a’i ymrwymiad i ddiogelu treftadaeth y beic.

Yn dilyn y gwaith adfer, mae Aaron wedi gosod y beic ar werth. Diddordeb mewn rhoi cynnig arni? Cliciwch Yma