Bwyty SeaView yn agor

Bydd bwyty Indiaidd yn agor nos fory yn Doc Fictoria

gan Elliw Llŷr
image

Bwyty Seaview sydd yn agor nos fory

image-1

Cyfuniad o liwiau cynnes yn y décor

image-2

Llun o’r Castell ar y wal wrth y bar

Screenshot_20240604-0734462

Y Maer, Dewi Jones, yn agor y bwyty

Cewch groeso cynnes ym mwyty newydd sbon o’r enw SeaView yn Doc Fictoria. Bwyty Indiaidd sydd yn cynnig dewis eang o fwyd blasus. Cewch poppadoms hefo dip nionyn, mango, Raita a phicl hefo ’chydig o gic ynddo a dewis o gwrs cyntaf fel Bhaji nionyn, cyw iar Tikka, Keebab cig oen a salad bychan. Fel dewis o brif gwrs gallwch fynd am y Tikka Massala, Korma neu y Jalfrezi. Dyma ond rhai o’r dewis o’r cyris, sydd ar gael ar y fwydlen arferol, wnaethom ni ei drio ar noson agoriadol i bobl leol.

Roedd pob pryd yn flasus ac wedi eu coginio yn berffaith gan gynnig cyfuniad o sbeisys, tomato, nionyn ond i enwi rhai o’r blasau. Fel buasech yn disgwyl mae bob pryd yn cynnig cyfuniad o sbeis, os da chi yn hoffi rhywbeth reit sbeislyd yna fydd y Jalfrezi yn siŵr o blesio.

Roedd y bara Naan wedi ei dostio yn hyfryd ac wedi ei weini hefo reis Pilau. Roedd digon o fwyd hefo bob pryd ac wedi plesio pawb o bob oed ar ein bwrdd ni. Ond, os nad yw bwyd Indiaidd yn ffefryn gennych mae dewis eraill ar gael hefyd. Cewch ddewis o win, cwrw Indiaidd a diod ysgafn.

Mae maint y bwyty yn cynnig dewis o fod ddigon bach i allu cynnig lle i griw allu cael sgwrs o amgylch bwrdd crwn a hefyd mae digon o ddewis o fyrddau sgwâr y gellir eu rhoi at ei gilydd ar gyfer criw mwy.

Mae’r holl le wedi ei addurno mewn lliw llwyd, gwyrddlas a defnydd o wydr i adlewyrchu’r golau. Mae’r lle yn teimlo’n gynnes efo’r cadeiriau melyn yn rhoi pop o liw. Mae’r defnydd o raff ar y waliau ac uwchben y ffenestr ar y tu blaen yn gwneud y cysylltiad gyda’r môr a’r cychod yn y Doc.

Sona Meah sydd wedi ei agor y bwyty, sydd hefyd yn cadw Caffi Cei, hefo profiad o weithio mewn bwyty Indiaidd.

Dywedodd Sona dwi eisiau creu hwb lle gall pobl ifanc sydd eisiau profiad o arlwyo a chael fewn i’r masnach allu dwad yma

Mae’r bwyty yn cynnig cynnwrf a dewis newydd 7 diwrnod yr wythnos, o 4 Mehefin, gyda mwy o lefydd i agor yn fuan yn y Doc.