Cadwyn Gyfrinachau Ebrill – darpar Faer Caernarfon

Dewi Wyn Jones fydd maer Caernarfon wythnos nesaf ymlaen, dysgwch fwy amdano yma

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Enw:  Dewi Jones

Gwaith: Athro a Chynghorydd

Beth yw dy gysylltiad â Chaernarfon? Wedi fy ngeni a’m magu yma. Erbyn hyn yn cael y fraint o gael cynrychioli ward Peblig ar y Gyngor Gwynedd a’r Cyngor Tref.

Disgrifia dy hun mewn tri gair. Penderfynol, Angerddol, Swnllyd

Nickname? Ma gen i sawl un… gofynnwch i fy ffrindiau!

Unrhyw hoff atgof plentyndod? Drwy fy mhlentyndod roeddwn i’n agos iawn efo fy nain a fy nhaid, cofio potchian yn y greenhouse efo taid a tyrchu drwy siopa elusen efo nain yn chwilio am fargans!

Y digwyddiad achosodd fwyaf o emabaras iti? Oni mewn côr ers talwm oedd yn symud a dawnsio i ganeuon a mae yna glip ohona i yn gwneud symudiadau hollol wahanol i bawb arall – mae o dal yn ymddangos ar S4C pob hyn a hyn ond na’i ddim enwi’r rhaglen!

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn? Os edrycha i ar ôl y ceiniogau mi wneith y punnoedd edrych ar ôl eu hunain.

Pwy yw dy arwr? Nain a Taid

Y peth gorau am Gaernarfon? Ma’n cliche erbyn hyn mae’n siwr, ond mae pobl Caernarfon yn arbennig iawn. Mae’n siwr na South of France a’r Foryd ydi’r llefydd brafia.

Beth yw dy ddiddordebau? Dwi’n cymryd diddordeb mawr yn be sy’n digwydd yn y byd gwleidyddol (gormod weithiau), a dydi hyna heb fod yn anodd dros y blynyddedd diwethaf, mwy cyffrous na unrhyw opera sebon! Dwi hefyd yn mynd drwy gyfnodau o redeg ac yn aelod o Gôr Dre.

Oes gennyt ti ofn rhywbeth? Gwylanod!

Pryd wnes di grio ddiwethaf? Cynhebrwng Nain a Taid

Beth yw dy hoff air? Joio

Hoff ffilm, lyfr neu albym a pham? Dwi wrth fy modd efo’r ffilm Shawshank Redemption. Mae’n stori wych sydd byth yn mynd yn hen, nai’m deud be ydi fy hoff olygfa neu fydda i’n sboelio fo i bawb arall…

Beth yw dy ddiod arferol? Cwrw fel arfer, a dwi’n licio trio rhai lleol, gynna ni lot o rai da ochra yma. Dwi hefyd yn licio gwin coch o bryd i’w gilydd.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd? Steak efo chips a’r trimmings i gyd (a digon o peppercorn sauce!)

Beth ydy’r ffaith fwyaf diddorol amdanat? Mae pedair cenhedlaeth ohonom ni wedi byw yn yr un stryd yn Nhwtill (Eleanor St)

Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd? Cael fy nghofio fel person gweithgar oedd yn trio ei orau dros bobl eraill.

Sut fasa ti’n treulio dy ddiwrnod olaf ar y blaned? Os bysa hi’n ddiwrnod braf byswn i’n deffro yn fuan er mwyn mynd allan i gael brecwast llawn efo Mam, wedyn byswn i’n mynd am dro o gwmpas Y Foryd neu i fyny Moel Eilio efo’n ffrindiau a Laura fy nghariad. Ar ôl hyna byswn i’n dod adra i folchi a newid a mynd allan i dre a bysa hi’n un o’r nosweithiau na pan mae pawb allan ac mewn hwyliau da.

Pa lun sy’n bwysig i ti, a pham? Llun efo mam a nain pan nes i raddio.

Petai modd i ti gael bod yn unrhyw un neu unrhyw beth arall, pwy/beth fasa ti’n ddewis?  Dwi erioed di bod yn un am chwarae pêl-droed, ond dwi’n meddwl bysa profi’r wefr o gael bod yn Gareth Bale yn 2016 yn ddipyn o beth!

Naill ai neu:

  1. Te neu goffi?  Coffi
  2. Y traeth neu’r mynyddoedd? Mynyddoedd
  3. Nadolig neu ben-blwydd? Pen-blwydd
  4. Ffilm neu nofel? Ffilm
  5. Creision neu siocled? Siocled

Pwy ti’n enwebu at fis Mai? Ceurwyn Humphreys

Dweud eich dweud