Camp Pedair Penderfynol

Taith 26 milltir er mwyn hel pres at McMillan

gan Elliw Llŷr
image-3

Cychwyn ar eu taith

image-1

Golygfa ar y ffordd

image-2

Dim llawer i fynd rwan!

image

Dathlu wrth gyrraedd y diwedd

Bu i Siân E. Williams Jones, Lea G. Jones, Meinir Jones a Llinos W. Griffith gerdded o Fangor i Fetws y Coed dydd Sadwrn gan alw eu hunain yn Bedair Penderfynol.

Roeddynt yn cymryd rhan yn y McMillan Mighty Hike Eryri sydd yn cael ei weld fel un o deithiau mwyaf heriol gan McMillan gan deithio ar hyd yr arfordir a’r Parc Cenedlaethol.

Maent wedi casglu £2,480 hyd yma ac roedd croesi’r llinell hefo ei gilydd ar y diwedd yn ddathliad personol gan iddynt un ai fod wedi cael canser neu aelod agos o’u teulu fod â chanser.

Disgrifiodd Llinos y diwrnod fel

Diwrnod brilliant wrth gwblhau y McMillan Mighty Hike Eryri….tywydd perffaith a golygfeydd swpyrb hefo cwmni a ffrindiau hyfryd.

Os hoffech gyfrannu gallwch wneud yma.

Mae ansoddair fel ‘Penderfynol’ yn treiglo’n feddal ar ôl ‘pedair’

  1. Bedair Benderfynol
  • Anwybyddu
  • Dysgu
  • Nôl
  • Nesaf