Clwb Darllen Caernarfon yn mynd o nerth i nerth

Mae dros flwyddyn ers cychwyn Clwb Darllen Caernarfon, dyma ychydig o lyfrau

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Yn Llety Arall unwaith y mis mae criw yn dod ynghŷd ar gyfer y Clwb Darllen misol. Er bod y criw yn parhau i dyfu rydym bob tro yn barod i groesawu aelodau newydd! Llyfr mis Chwefror yw Llythyr Noel: Dal y Post a bydd y clwb hwnnw yn cael ei gynnal nos Fawrth y 27ain o Chwefror am 7yh yn Llety Arall, croeso i bawb.

Yn ôl Mirain, sefydlwr y Clwb, penderfynodd gychwyn Clwb Darllen yng Nghaernarfon er mwyn gwthio ei hun i ddarllen llyfrau gwahanol i’r themâu arferol ac yn sicr mae wedi cael y cyfle i wneud hyn.

Y llyfr cyntaf ddarllenodd y clwb oedd Sgen I’m Syniad gan Gwenllian Ellis a wedyn Where The Crawdads Sing gan Delia Owens ac ers hynny maent yn cadw i ddarllen llyfrau Cymraeg a Saesneg am yn ail. Yn ôl Mirain;

‘Da ni gyd wrth ein boddau yn dod draw i Lety Arall am awr a thrafod llyfr y mis dros baned a weithiau ambell fisged! Mae clywed persbectif pawb o’r llyfr yn hynod o ddiddorol a’r sgwrs yn gwneud imi feddwl mwy am gynnwys y llyfr pob tro hefyd!

Yn ôl Janet mae y Clwb Darllen yn gymorth i ddarllen mwy o amrywiaeth

Ers ymuno dwi wedi darllen amrywiaeth o lyfrau na fyswn i’n eu darllen fel arfer a hynny’n gymysgedd o lyfrau Cymraeg a Saesneg. Mae llyfrau’r clwb yn cynnwys Pijin, All the lights We Cannot See, American Dirt, Pum Diwrnod a Phriodas a Gladiatrix – dim ond i enwi rhai!

Mae’r Clwb hefyd gyda sgwrs Whatsapp lle mae modd i bawb rannu llyfrau maent wedi mwynhau a hefyd rhestr Goodreads. Mae hyn yn helpu pobl i ddewis eu llyfr nesaf.

Cost y clwb yn fisol yw £3 a mae’r arian yn mynd i Llety Arall am y gofod.

Os ydych gyda diddordeb ymuno dewch draw i Llety Arall un o’r dyddiadau isod am 7yh yn ystod 2024 a mae croeso i chi gysylltu gyda Llety Arall i ddysgu beth yw llyfr y mis.

27/02     

26/03

30/04

21/05

25/06

30/07

27/08

24/09

29/10

26/11

10/12 

Mae Llety Arall hefyd yn dathlu 5 mlynedd ar y 1af o Fawrth, cadwch olwg ar ei cyfryngau cymdeithasol i weld sut y byddent yn dathlu mewn steil!