Cystadleuaeth Cyrri 2024

Ydych chi wedi perffeithio eich rysáit cyrri? A fedrwch chi goncro’r gystadleuaeth gyda’ch sbeis?

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Mae’r gystadleuaeth gyrri flynyddol yn ôl ac rydym yn barod i goroni pencampwr cyrri Caernarfon ar gyfer 2024! 

Yn syml, byddwn yn gofyn i bob cystadleuydd ddod a 8 ‘portion’ o’u cyrri hwy. Bydd cyfanswm o 9 cyrri yn y gystadleuaeth.

Bydd mynychwyr y noson yn derbyn blas o bob un cyrri gyda reis a chapatis ac yn dewis y goreuon yn eu plith.

Ydych chi’n meddwl mai chi sydd gyda’r rysáit buddugol? Ewch amdani! Ebostiwch digwyddiadau@gwylfwydcaernarfon.cymru neu cysylltwch ar y cyfryngau cymdeithasol!