Tai ar Daith: digwyddiad tai Cyngor Gwynedd yn ymweld â Chaernarfon

Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd trigolion Gwynedd i’r cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau Tai ar Daith

gan LOWRI NANSI ROBERTS
Sesiwn Galw-i-Mewn Tai ar Daith Cyngor Gwynedd

Sesiwn Galw-i-Mewn Tai ar Daith Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd trigolion Gwynedd i’r cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau galw-i-mewn ‘Tai ar Daith’ trwy’r Sir yng Nghaernarfon ar 18 Ebrill.

Pwrpas y digwyddiad hwn yw codi ymwybyddiaeth o’r cynlluniau tai amrywiol sydd ar gael er mwyn sicrhau bod gan bobl y Sir fynediad at gartrefi addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.

Bydd y sesiwn cyntaf yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Byw’n Iach Arfon rhwng 3-6.30pm ac yna bydd y gyfres o ddigwyddiadau yn ymweld â Phwllheli a Dolgellau dros y wythnosau nesaf.

Yn ystod y digwyddiadau, bydd cynrychiolwyr y Cyngor a phartneriaid allweddol wrth law i ddarparu gwybodaeth a chymorth hanfodol am brosiectau sy’n ymwneud â thai, ac annog sgyrsiau agored ac adeiladol ynghylch sefyllfa dai unigolion. Bydd hyn yn cynnwys manylion am grantiau a benthyciadau sydd ar gael i helpu trigolion Gwynedd i brynu cartref, prosiectau i gynyddu’r cyflenwad tai ledled Gwynedd a phrosiectau’r i fynd i’r afael â digartrefedd yn y Sir, ymysg llawer mwy.

Yn ogystal ag adnoddau i rannu gwybodaeth, bydd mynychwyr yn cael mynediad at gyngor arbenigol ar faterion megis tai cymdeithasol, ynni a chymorth costau byw. Bydd staff ar gael i helpu ar unrhyw fater sy’n ymwneud â thai, o lenwi ffurflenni i drafod materion cyffredinol, gan sicrhau bod pob mynychwr yn derbyn cefnogaeth sy’n addas i’w hanghenion personol.

Bydd amrywiaeth eang o wasanaethau’r Cyngor yn cael eu cynrychioli yn y digwyddiad, gan gynnwys:

  • Cymorth Costau Byw
    Cynllunio
    Datblygu tai
    Digartrefedd
    Gwybodaeth i Deuluoedd
    Opsiynau Tai
    Rhannu Cartref
    Tai gwag
    Ynni

Bydd partneriaid tai megis Cymdeithasau Tai ac Arfor hefyd yn bresennol, ochr yn ochr â phartneriaid sy’n ymwneud â phrosiectau tai mewn ardaloedd penodol.

Daw’r digwyddiadau hyn o dan faner Cynllun Gweithredu Tai gwerth £140 miliwn y Cyngor i fynd i’r afael â phrinder tai’r Sir a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy o safon uchel yn eu cymunedau eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

“Wrth i ni barhau i frwydro yn erbyn yr argyfwng tai, mae’n hanfodol bwysig fod pobl Gwynedd yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Ers y cyfnod clo, mae’r gwaith ymgysylltu am gynlluniau tai’r Cyngor wedi digwydd gan fwyaf o bell ond mae’r amser wedi cyrraedd i ni fynd y filltir ychwanegol a dod allan at bobl i gymunedau trwy Wynedd.

“Bwriad y digwyddiadau yma ydi caniatáu i swyddogion profiadol siarad yn uniongyrchol efo pobl y Sir. Mae’r Cyngor yma i’ch cefnogi chi – trwy fynychu’r digwyddiad hwn, cewch gyfle i drafod yn agored unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gennych ynglŷn â thai, waeth beth fo’u maint.”

Dywedodd Carys Fôn Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

“Mae’r digwyddiadau Tai ar Daith yma wedi cael eu trefnu i sicrhau nad oes neb yn colli allan ar gyfleoedd tai hollbwysig. Mae llawer iawn o waith wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf i fynd i’r afael â phrinder tai’r Sir a dyma gyfle i chi weld sut allwn ni eich helpu chi.

“Dewch i siarad efo ni am ddigartrefedd, am ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, am adeiladu cartrefi newydd, am fenthyciadau, a gadewch i ni wybod am eich anghenion a’ch pryderon chi. Mae’n bosib iawn bod mwy o help ar gael gan y Cyngor a’i bartneriaid nag ydych chi’n ei feddwl.”

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau Tai ar Daith, ewch i: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Tai/Tai-ar-Daith-Digwyddiadau-Galw-i-mewn-Tai.aspx