![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/13/2024/03/IMG-20240301-WA0019-640x396.jpg?0)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/13/2024/03/IMG_20240301_171949-308x190.jpg?0)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/13/2024/03/IMG_20240301_171942-308x190.jpg?0)
Tydy amser yn hedfan? Mae Llety Arall yn dathlu ei phenblwydd yn 5 oed yn barod eleni! 5 mlynedd ers croesawu’r gwestai cyntaf, Alan o Wlad yr Haf i aros yn y Llety.
Hyfryd iawn oedd gweld Lle Arall yn llawn pobl i ddathlu penblwydd y fenter gymunedol yng nghanol y dre’. Mae yna lawer o bobl i ddiolch iddyn nhw. Yn gyntaf cefnogwyr y fenter sydd wedi bod yn rhoi o’u hamser ac arian i brynu cyfranddaliadau! Ac mae diolch enfawr i Cathy, Cydlynydd Llety Arall a Janet, cyn- a chyd-gydlynydd sydd wedi bod yn brysur iawn yn paratoi’r parti!!
Mae Llety Arall yn rhan o rwydwaith Mentrau Cymunedol Gwynedd o’r enw Cymunedoli. Felly, hyfryd iawn cael croesawu Haydn Jones, Prif Swyddog Cymunedoli a Menna Jones, Ymddiriedolaeth Enlli i rannu eu profiadau a’u dymuniadau at y dyfodol.
Sôn am y dyfodol, mae gan Llety Arall sawl prosiect newydd ar y gweill, datblygu’r atig, harddu’r iard a phrosiect dehongli treftadaeth yn rhai ohonyn nhw. Felly, ymlaen i’r 5 mlynedd nesaf!