Dewch am noson o Steil a Sbarcyl

Dyma wahoddiad gan Siop Iard i noson i wybod mwy am sut i gael y gorau o‘n gemwaith

gan Elliw Llyr
D678DB30-324B-45D7-ABFA
BAA83BAB-6A2F-4CAD-8621-D9833C768916

Gemyddion Siop Iard

Bydd Siop Iard yn cynnal noson i helpu merched ddewis ategolion a gemwaith sy’n ein gweddu mewn noson unigryw. Bydd noson Steil a Sbarcyl yn cael ei gynnal yn eu siop yn Stryd y Plas, Caernarfon ar 16 Chwefror rhwng 7 a 9pm.

Dywedodd Elin o Siop Iard

‘Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb yma, i weld y gweithdai newydd fyny grisiau, i gael ysbrydoliaeth gan Sonia am steil a sut i ddefnyddio ategolion ffasiwn (accessories) gan gynnwys ein gemwaith ni. Mae’r digwyddiad hefyd yn ysbrydoli efo treulio noson yng nghwmni ffrindiau neu ‘Galetines’ gan ei fod mor agos i Sant Ffolant.

Bydd y noson yn cychwyn gyda Buck’s Fizz a bag of bethau da wrth gyrraedd ac yna cyfle i fwynhau sgwrs gyda’r steilydd adnabyddus Sonia Williams, hyder mewn lliw, fydd yn trafod sut i ddewis ategolion a gemwaith sy’n gweddu. Cofiwch fod angen mynd fyny grisiau i’r gweithdai ac nid oes lift yn yr adeilad.

Yn dilyn y sgwrs bydd Prosecco a Chanapés ar gael wrth bori’n hamddenol yn y Siop a chyfle i siarad gyda’r gemyddion am y sbarcyl.

Yn hael iawn bydd raffl ar y noson a pres y tocynnau yn mynd tuag at Ŵyl Fwyd Caernarfon.

Dim ond nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael ac fe gewch chi nhw yma

  • Anwybyddu
  • Dysgu
  • Nôl
  • Nesaf