Eisiau help efo costau byw?

Ewch draw i Noddfa, Caernarfon heddiw i siarad gyda sawl mudiad i ddeall pa gymorth sydd ar gael

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd
help-costau-byw

Dewch i siarad gyda’r holl fudiadau

A hoffech ddeall mwy ynghylch pa gymorth sydd ar gael? A ydych chi eisiau sgwrsio gyda’r mudiadau uchod i ddysgu sut i wneud y mwyaf o’r cymorth sydd ar gael? Ewch draw i Noddfa, Caernarfon heddiw rhwng 2:30yh a 5:00yh!

Mae’r gaeaf yn gyfnod anodd i sawl teulu a chartref ac mae pob cymorth sydd ar gael yn help mawr. Boed hynny yn gymorth i ddeall y cymorth sydd ar gael i leihau costau misol neu yn “tips” ar sut i arbed arian o ddydd i ddydd – mae popeth o gymorth.

Mae swyddogion Cymorth Costau Byw Cyngor Gwynedd wedi trefnu cylchdaith i sawl lleoliad ar draws Gwynedd trwy’r gaeaf hwn i rannu gwybodaeth a gwneud hynny ar y cyd â sawl partner allweddol.

Mae’r Cyngor hefyd ar y cyd gyda phrosiect Gwynedd Oed-Gyfeillgar wedi rhyddhau llawlyfr sydd gyda gwybodaeth bwysig i gyd mewn un lle a gallwch weld y llawlyfr fan hwn – gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Dogfennau-trigolion/Iechyd-a-gofal-cymdeithasol—dogfennau/Paratoi-at-y-Gaeaf-1.pdf neu gellir cael copi caled o Lyfrgelloedd a Hybiau Cymunedol y sir.

Mae hefyd tudalen we benodol ar wefan y Cyngor sydd gyda mwy o wybodaeth allweddol i’ch helpu’r Gaeaf hwn – Paratoi am y gaeaf (llyw.cymru)