Sir Gaernarfon yn Sir nawdd Sioe Frenhinol Cymru yn 2025

Yn 2025 Sir Gaernarfon fydd Sir nawdd Sioe Frenhinol Cymru.

gan Bethan Williams
Ocsiwn-Addewidion-Promise-Auction-1

Yn 2025 Sir Gaernarfon fydd Sir nawdd Sioe Frenhinol Cymru.

Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau er mwyn casglu arian ar gyfer y Sioe ac ein elusen dewisol sef Ambiwlans Awyr Cymru.

Byddwn yn cynnal Ocsiwn Addewidion nos Wener Ebrill 26 yng nghlwb rygbi Bangor. Bydd y noson yn cychwyn am 7 a mae croeso cynnes i bawb ddod i ymuno efo ni.

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am yr Ocsiwn neu eisiau catalog, mae croeso i chi gysylltu efo ni drwy ebost rwascaernarfon@gmail.com.

Byddwn yn derbyn ‘sealed bids’ ar gyfer y noson hefyd.

Gobeithio y medrwch ymuno efo ni a cadwch lygaid am fwy o ddigwyddiadau sydd i ddod yn fuan.

Dweud eich dweud