GISDA yn Cyhoeddi Balchder Caernarfon 2024! 

GISDA

Gisda Cyf
gan Gisda Cyf

Mae GISDA, elusen leol sy’n ymroddedig i gefnogi pobl ifanc yng Ngwynedd, yn gyffrous i gyhoeddi y bydd Balchder yn dychwelyd yn ôl i Gaernarfon! Wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn, Mehefin 29ain, bydd y diwrnod llawn hwyl hwn yn ddathliad bywiog o gynhwysiant, amrywiaeth a chymuned.

Mae croeso i bawb ymuno yn y dathliadau! Bydd y diwrnod yn cychwyn gyda gorymdaith ddisglair drwy strydoedd hanesyddol Caernarfon. Disgwyliwch amrywiaeth o adloniant, siaradwyr ysbrydoledig, stondinau a gweithgareddau difyr, a chyfranogiad gan fusnesau lleol, gan wneud Balchder Caernarfon yn ddathliad gwirioneddol gymunedol.

Mae Balchder Caernarfon 2024 hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth am yr heriau y mae pobl ifanc LHDTC+ yn eu hwynebu. Er bod agweddau a sefyllfaoedd yn gyffredinol wedi gwella’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o unigolion ifanc LHDTC+ dal i wynebu heriau. Bydd dathliad Pride yn gyfle i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cefnogaeth a derbyniad.

Bydd yr amserlen o ddigwyddiadau, yn cynnwys adloniant, siaradwyr, a llwybr yr orymdaith, yn cael eu datgelu yn yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser, gallwch ddysgu mwy am Balchder Caernarfon 2024 a chael y newyddion diweddaraf trwy ymweld â’n tudalen digwyddiad Facebook: https://bit.ly/43Tk2lc

Mae GISDA wrthi’n chwilio am nawdd gan fusnesau a sefydliadau lleol i gefnogi Pride Caernarfon 2024 a sicrhau ei lwyddiant. Bydd noddi’r digwyddiad yn cynnig buddion gwerthfawr megis amlygrwydd brand, gosod logo ar ddeunyddiau hyrwyddo, a’r cyfle i gysylltu â chymuned amrywiol. Mae pecynnau nawdd yn cael eu cwblhau a byddant ar gael yn fuan. Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i helpu i wneud Balchder Caernarfon 2024 yn ddiwrnod i’w gofio!

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â ni ar 01286 671153 neu gisda@gisda.co.uk am ragor o wybodaeth.

Am GISDA

Mae GISDA yn elusen gofrestredig sy’n grymuso a chefnogi pobl ifanc yng Nghymru. Trwy ei wasanaethau hanfodol, mae GISDA yn helpu pobl ifanc sy’n gwynebu heriau fel digartrefedd a diffyg cyfleoedd. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.gisda.org