Rali Ddol Castell

CFFI Caernarfon yn cipio’r 2il safle!

Clwb Ffermwyr Ifanc Caernarfon

Diwrnod llwyddiannus iawn i ni fel clwb yn Rali flynyddol CFFI Eryri draw yn Ddol Castell, Rowen.

Llongyfarchiadau mawr i’r holl aelodau fuodd yn cystadlu dydd Sadwrn! Diwrnod gwych llawn cystadlu o ganu, coginio, dawnsio i dynnu rhaff! Yr holl waith caled yn paratoi yn amlwg wedi talu!

Llwyddodd ein clwb bach ni ddod yn 2il yn y Rali! 🥳

Da ni’n ddiolchgar iawn i bawb fuodd yn helpu ni baratoi at y Rali ag mwy na dim yn ddiolchgar i’n aelodau am gymeryd rhan!

Diolch i Ffermwyr Ifanc Eryri a pawb fuodd yn rhan o’r trefnu!💙

🏆- Tlws Myfyr Bryn – Barnwr Gwartheg Mwyaf Addawol y Rali (Alaw Morgan)

🏆 – Tarian Teulu Bryn Bychan – Barnwr Defaid Mwyaf Addawol y Rali (Neli Rhys)

🏆 – Cwpan Barhaol yr Helfa – Clwb Ail Orau yn yr Adran Hŷn

🏆 – Cwpan Huw a Ellen Jones Gwern – Clwb gyda’r mwyaf o Farciau o’r 5 Clwb lleiaf

🏆 – Tarian Brwdfrydedd UAC – Clwb Buddugol yn ôl cyfartalaeth aelodaeth

Ymlaen a ni i Rali Porthdinllaen flwyddyn nesa!🥳

📸gan Bwn Jackson