Theatr Bara Caws yn cyflwyno Ffenast Siop

“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”

Stephen Williams
gan Stephen Williams

Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym

“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”

Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos. 

Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan.

Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi’r menopos.

Meddai Iola: “Da ni’n dwy wedi dysgu bod chwerthin yn ffordd o lacio’r poen a’r ofn. Dyma gewch chi yn y sioe ac yn y sgwrs gobeithio!”

Ac i goroni’r cyfan bydd Mirsi hefyd yn ymuno â ni mewn sawl lleoliad ar hyd y daith i gynnal siop ‘pop up’ – felly dyma gyfle gwych i chi gael noson allan o chwerthin ymysg ffrindiau, i rannu profiadau ac i wneud mymryn o siopa.

Bydd hefyd cyfle i gymryd rhan mewn sgwrs greadigol anffuriol wedi ei arwain gan MWY mewn rhai o’r lleoliadau.

Beth allai fod yn well?

Canllaw oed 14+. Defnyddir iaith gref. 

Cast – Carys Gwilym

Cyfarwyddo – Iola Ynyr

Cerddor – Osian Gwynedd

Technegydd – Llywelyn Roberts

Cynllunydd – Lois Prys

Y DAITH A MANYLION TOCYNNAU

* Dewch i rannu MWY mewn sgwrs greadigol anffurfiol wedi’r sioe

** Siop Pop-up gan Mirsi

Mawrth 07-05-24 7:30 yh

Clwb Rygbi Bethesda * **

https://rb.gy/u4fm56

Mercher 08-05-24 7:30 yh

Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch **

Menter laith Môn

07739 948 883

lau 09-05-24 7:30 yh

Neuadd Llanystumdwy **

https://is.gd/LD0V51

01766 523 135

07860 124 797 – Emyr Evans

Gwener 10-05-24 7:30 yh

Neuadd Llan Ffestiniog

01766 831 802 – Siop Lyfrau’r Hen Bost, Blaenau

Llun 13-05-24 7:30 yh

Theatr Fach, Dolgellau * **

07814 080 500 – Richard Withers

Mawrth 14-05-24 7:30 yh

Neuadd Llangadfan

07528 674 950 – Catrin Hughes

lau 16-05-24 7:30 yh

Theatr Felinfach **

https://is.gd/dVkB87

01570 470 697

Llun 20-05-24 7:30 yh

Forge Fach, Clydach

Menter Abertawe

https://rb.gy/7tvvyg

Mercher 22-05-24 7:30 yh

Yr Egin, Caerfyrddin * **

https://is.gd/dgqv9z

lau 23-05-24 7:30 yh

Clwb y Bont, Pontypridd **

Aled Wyn Phillips

https://rb.gy/rbgr7t

Gwener 24-05-24 7:30 yh

Theatr Soar, Merthyr Tudful **

https://rb.gy/rzxot9

Sadwrn 25-05-24 7:30 yh

The Gate, Caerdydd **

https://is.gd/RFm66V

Dweud eich dweud