Wythnos Gofalwyr Di-Dâl 2024

Rhwng y 10fed a’r 14eg o Fehefin mae hi’n Wythnos Gofalwyr, cymerwch gip olwg o beth sydd ar gael

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Yn ein plith mae sawl unigolyn yn ofalwr ond prin iawn yw’r rhai sydd yn cael y cymorth sydd ar gael ar eu cyfer. Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun efallai buasai galw draw i un o’r amryw ddigwyddiadau am sgwrs anffurfiol a gwybodaeth yn fuddiol i chi.

Mae criw o bartneriaid sy’n gweithio yn y maes ar draws Gwynedd wedi dod ynghyd i drefnu cyfres o ddigwyddiadau trwy’r wythnos yn hybiau cymunedol Gwynedd.

Y digwyddiad agosaf i Gaernarfon yw’r un sy’n Porthi Dre fore Llun y 10fed o Fehefin, ewch draw am baned a sgwrs anffurfiol.

Mae croeso i unrhyw un fynychu unrhyw un o’r digwyddiadau a gallwch gofrestru trwy e-bostio Ffion – ffionwynneedwards@gwynedd.llyw.cymru