Dim dewis ond teithio i Lundain i gynrychioli Arfon

Trefn newydd Jacob Rees-Mogg yn rhoi ASau o Gymru mewn “sefyllfa amhosib”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Hywel Williams

Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon wedi dweud na fydd dewis ganddo ond anwybyddu’r cyfyngiadau yng Nghymru i deithio i Lundain er mwyn cynrychioli ei etholaeth.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddiad Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg, y byddai system newydd, sydd yn caniatáu i Aelodau Seneddol siarad a phleidleisio o gartref, yn dod i ben.

Mewn cyfweliad â Golwg360 dywedodd Hywel Williams ei fod yn bryderus iawn am yr effaith gall y newid ei gael ar Aelodau Seneddol o Gymru.

“Mae’r dewis yn enghraifft o agwedd unllygeidiog gan y llywodraeth”, meddai.

“Mae’r drefn newydd yn golygu bydd rhaid i Aelodau Seneddol o Gymru anwybyddu’r cyfyngiadau sydd mewn lle yma er mwyn teithio i Lundain!”

Mae arweinydd Tŷ’r Cyffredin eisiau i ASau ddychwelyd i’r siambr ar ôl y Sulgwyn i osod esiampl i weddill y wlad.

Er hyn mae’r rheolau cadw pellter yn golygu mai dim ond 50 o ASau sy’n gallu bod yn y siambr ar yr un amser, tra gall hyd at 120 ymuno dros y we.

“Sefyllfa amhosib”

Pwysleisiodd Hywel Williams nad oedd yn gwrthod teithio i Lundain, a hynny er ei fod wedi gwrthwynebu pobol yn teithio o Loegr i Gymru er mwyn lleihau ymlediad y coronafeirws.

“Mae’n sefyllfa anodd tu hwnt, ac yn rhoi ni fel Aelodau Seneddol o Gymru mewn sefyllfa amhosib.

“Er mwyn gwneud fy ngwaith fydd dim dewis gen i ond teithio lawr i Lundain.

“Dydy’r system siarad a phleidleisio o gartref ddim yn berffaith, ond mae’n ymarferol ac yn gweithio.”

Ychwanegodd yr Aelod Seneddol fod y llywodraeth nid yn unig wedi diystyru aelodau o Gymru, ond hefyd y rheini sydd yn gorfod hunanynysu er mwyn gwarchod aelodau bregus o’u teulu.

Effaith ddifrifol

Mae’r Gymdeithas Etholiadol hefyd wedi rhybuddio y gallai’r newid gael effaith ddifrifol ar Aelodau Seneddol o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Darren Hughes, Prif Weithredwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol: “Dros y mis diwethaf, mae Aelodau Seneddol wedi dangos eu bod nhw’n gallu gweithio o gartref.

“Mae’r gwrthbleidiau’n iawn i ofyn i’r llywodraeth i ailfeddwl eu cynlluniau i gael gwared â’r system.”

 

Darllenwch fwy am hyn ar Golwg360