“Wan bod ni yma, dani’n cal y bai am bob dim!”
Mae Alaw Fôn o Bontnewydd wedi bod yn byw ac yn astudio yn ninas Lerpwl ers rhai blynyddoedd bellach.
Mewn sgwrs gydag Caernarfon360, mae hi wedi bod yn ymateb i gyfyngiadau llym y ddinas ac yn trafod ei phrofiadau personol o brofi’n bositif i’r feirws.
Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno rheol newydd, sydd i fod i ddod i rym ddydd Gwener (Hydref 16). Mi fydd hynny’n atal pobl o ardaloedd sydd â lefelau uchel o Covid, gan gynnwys Lerpwl, rhag teithio i Gymru.
Bydd hynny’n ei gwahardd rhag dychwelyd yn ôl i Gymru am gyfnod.
O brofi’n bositif i’r feirws, i addasu i fywyd prifysgol ar ei newydd wedd, tra hefyd yn cael bai am y cynnydd diweddar mewn achosion, yn ôl Alaw Fôn, mae’r cyfangiadau newydd yn gwneud sefyllfa anodd, hyd yn oed anoddach…
“Oni jyst isio bod adra”
“Bora dydd Sadwrn neshi ddeffro ag oni’n meddwl, ‘ma hyn yn hell. Oni’n boeth, wedyn oni’n oer ac oedd gen i gur yn fy mhen – oedd o’n afiach.”
“Eshi am test, a ddoth o’n nol yn bositif.”
“Oni jyst isio bod adra.”
Dywedodd Alaw ei bod yn teimlo dipyn yn well erbyn hyn ac yn cyfri lawr y dyddiau nes bod modd iddi gael mynd allan am ychydig o awyr iach.
“’Da ni’n cal y bai am bob dim”
Noson cyn i gyfyngiadau llym y ddinas ddod i rym, roedd heidiau o bobl wedi eu ffilmio yng nghanol y ddinas. Wrth ymateb i’r golygfeydd, dywed Alaw Fôn:
“Oni mor shocked, mae o’n hollol stupid.”
“Oni’n gweld lot o bobl ar Twitter yn deud na stiwdants ‘di nhw gyd, ond fedri ‘di ddim rili deud hynny.”
“Yndi, mashwr bod ‘na stiwdants yn eu canol nhw,” meddai, “ond dwi’n siŵr bod ‘na bobl leol yna hefyd.”
“Y peth dw i fwyaf blin hefo ydi bod y Llywodraeth ‘di deud, cerwch yn ôl, mae o’n rili saff i chi fynd yn ôl, peidiwch a hesitatio, dylia chi gyd fynd yn ôl i’r coleg.”