Wrth i Loegr wynebu mis o gyfnod clo cenedlaethol, rhybuddiodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod y sefyllfa yn “creu cyd-destun newydd i ni yng Nghymru.”
Aeth Caernarfon360 i gael sgwrs gyda John Evans, perchennog y Black Boy i drafod ei ymateb.
“Does ‘na neb yn gwybod be sy’n mynd ymlaen”
Dywedodd John Evans ei fod yn poeni y byddai’r penderfyniad yn creu fwy o ddryswch nag o’i werth.
“Does ‘na neb yn gwybod be sy’n mynd ymlaen,” meddai.
“Ar hyn o bryd, does ganddo ni ddim cliw be dani’n talu staff – mae ‘na bedwar gwahanol scheme ar gael ar y funud – a rŵan maen nhw’n gwneud yr un peth hefo’r cwsmeriaid – dydyn nhw ddim yn gwybod os ydyn nhw’n mynd ta dŵad chwaith.”
Dywedodd fod angen i’r Llywodraeth sicrhau bod unrhyw reol neu ganllawiau newydd yn gwbl glir, er lles y perchnogion, y staff a’r cwsmeriaid.
“Pan ‘da chi hefo darnau o reolau gwahanol ym mhob man – mae o fel rhoi eich llaw mewn poced o wydr – dydych chi ddim yn gwybod pa ddarn ‘da chi isio.”
“Cyn belled a bo’ chi’n gwybod be yda chi’n neud ‘da chi’n gallu planio amdano fo ond os does gennych chi ddim plan, mai’n flêr a’r broblem fan hyn ydi bod ‘na tua deg plan – dyna ydi’r drwg.”
“Chwarae o gwmpas yda ni mewn ffordd – achos does ‘na neb yn gwybod be ydi’r ateb cywir.”