gan
Ohebydd Golwg360
Mae perchennog caffi’r Gegin Fach yng Nghaernarfon wedi dweud ei bod hi’n “poeni am ail don o’r coronafeirws”.
Er hynny, mae Karen Jones yn dweud bod “busnes wedi bod yn mynd yn dda ers i ni gael ailagor, er mod i wedi bod yn eithaf nerfus am wneud.”
“Hanner ein capasiti ydyn ni’n cael ei adael i mewn oherwydd y rheolau dau fetr, ond rydym yn gwneud y mwya’ ohono,” meddai Karen Jones.
Fodd bynnag, nid yw yn credu bod cynllun ‘Eat Out Help Out’ Llywodraeth Prydain wedi denu mwy o bobol i’r Gegin Fach.
“Dw i ddim yn meddwl bod o wedi denu mwy o bobol na’r arfer, ond mae pobol wedi bod yn hapus ein bod ni’n ei wneud o.
“A dw i dal yn ofidus am beth sydd i ddod, yn poeni fod yno ail don o’r cronafeirws yn dod a lockdown arall.”